Creu cyfle i ddatblygu defnydd creadigol a hybu perchnogaeth o’r Gymraeg – dyna oedd y nod pan lansiwyd Llais y Lle yn 2023. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, mae naw cynllun wedi dod â’r iaith yn fyw mewn cymunedau ledled y wlad.
Mae Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystyried llwyddiant y flwyddyn gyntaf. “Dyma’r tro cyntaf i ni geisio cyfuno gwaith cymunedol a hyrwyddo’r Gymraeg fel hyn – mae’r brwdfrydedd a’r gwaith sydd wedi deillio o’r prosiectau wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau ac wedi ysbrydoli unigolion a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.
Un o’r nifer o brosiectau sydd wedi creu argraff yw ‘Dy ni ddim yn siarad mwy/We no longer talk’. Mae’n dod â chymunedau o’r gogledd a’r de at ei gilydd i edrych ar eu perthynas gyda’r Gymraeg trwy lens creadigol. Wedi ei arwain gan Rhiannon White, Cyfarwyddwr Artistig Common Wealth a’r artist Ffion Wyn Morris, mae’r cynllun yn ceisio herio rhagdybiaethau am y Gymraeg yn y ddwy ardal.
Sail y gwaith oedd y gwahaniaeth mewn agweddau a mynediad at yr iaith o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol. Mae cefndir Rhiannon a Ffion ar un llaw yn debyg iawn. Mae’r ddwy wedi eu geni a’u magu ar stadau cyngor, Ffion ym Methesda, Gwynedd a Rhiannon yn Llaneirwg, Caerdydd. Ond, oherwydd daearyddiaeth a demograffeg, roedd perthynas y ddwy â’r Gymraeg yn dra gwahanol - Rhiannon yn ddi-Gymraeg a Ffion yn siaradwraig iaith gyntaf. Roedd eu mynediad at yr iaith, yn ymwneud yn llwyr â ble cawsant eu geni.
Mae Rhiannon yn egluro mai hybu dealltwriaeth a chreu diddordeb ymysg pobl i ddysgu mwy am y Gymraeg, ei hanes, a’r hyn mae’n ei olygu i siarad yr iaith oedd bwriad y cynllun, a hynny mewn cyfres o weithdai creadigol. Mae’n cyfaddef, cyn iddi gychwyn ar y gwaith roedd hi, fel llawer o’i chyfoedion yng Nghaerdydd o’r farn mai dim ond pobl dosbarth canol oedd yn medru’r iaith ac nad oedd heriau cymdeithasol wir yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg. Roedd ymweld ag ardaloedd gwahanol a chwrdd â phobl yn y cymunedau hynny felly yn agoriad llygad iddi.
“Doeddwn i ddim yn meddwl bod tlodi yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg – doeddwn i erioed wedi clywed yr iaith yn cael ei siarad yng Nghaerdydd fel plentyn. Doedd gen i ddim syniad bod cymunedau fel Bethesda yn bodoli – cymunedau sy’n wynebu'r union broblemau a chymunedau eraill difreintiedig, fel ble cefais i fy magu.”
Rhiannon White
Mae Rhiannon yn egluro: “Doedd gen i ddim syniad am y frwydr i warchod yr iaith, a pham bod y dirywiad wedi bod mor gyflym mewn rhai o ardaloedd diwydiannol y de. Rydw i wedi dysgu erbyn hyn bod ffactorau tebyg yn dal i fod ar waith mewn rhannau o’r gogledd. Doedd dim o hyn yn cael ei ddysgu i ni yn yr ysgol a bron o ganlyniad doedd gen i ddim diddordeb mewn dysgu Cymraeg chwaith.”
Gyda llawer o’r digwyddiadau ymgysylltu yn y ddwy gymuned bellach wedi dod i ben, mae Rhiannon a Ffion yn dod â’r gwaith at ei gilydd drwy edrych ar sut i greu perfformiad yn seiliedig ar yr holl ddeunydd maen nhw wedi ei gasglu. Fe ddaw penllanw ‘We no longer Talk’ fis Mai mewn digwyddiad arbennig i ddangos ffilm a chynnig sesiwn holi ac ateb gyda’r artistiaid sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect.
I Einir Sion mae ‘We No Longer Talk’ yn crisialu arwyddocâd Llais y Lle a pham bod y gronfa wedi ei sefydlu. “Fel nifer o’r prosiectau eraill, mae Rhiannon a Ffion wir wedi archwilio perthynas cymuned â’r Gymraeg ac wedi llwyddo i wneud hynny mewn ffordd sy’n mynd i sicrhau gwaddol. Mae sgwrsio gyda nhw yn dangos yr effaith ddwys mae’r gwaith wedi ei gael arnyn nhw yn bersonol a hefyd sut mae wedi newid agweddau at y Gymraeg.”
Gyda Llais y Lle 2023 yn dirwyn i ben, fe fydd cynlluniau o’r newydd ar gyfer Llais y Lle 2024 yn cael eu datblygu a’u gweithredu. Y gobaith eto drwy rannu profiadau, dysgu a chreadigrwydd, yw y gall pobl werthfawrogi ac ystyried iaith mewn perthynas â chymuned boed hynny yn un ddaearyddol neu yn un o ddiddordeb, ac yn y pen draw, codi ymwybyddiaeth a chreu agwedd bositif at y Gymraeg.