Bydd y sianel yn hyrwyddo llwyddiannau cynllun 2023 Llais y Lle, gan rannu cynnwys o'r prosiectau cyffrous sydd wedi bod o fudd i gymunedau lleol ledled Cymru. 

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau'r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn. Mae'r prosiectau hyn, a llawer o rai eraill, i'w gweld ar sianel newydd 'Llais y Lle' ar AM. 

Mae Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg i Cyngor Celfyddydau Cymru, yn falch i allu rhannu'r straeon yma wrth lansio'r platfform newydd: "Mae prosiectau Llais y Lle 2023 wedi bod yn wych ac wedi cael effaith mawr ar yr iaith Gymraeg chymunedau ledled Cymru. Mae'r straeon yma yn haeddu cael eu clywed, ac AM yw'r llwyfan perffaith i wneud hyn. 

"Ym mis Mai, byddwn yn cyhoeddi'r prosiectau llwyddiannus ar gyfer carfan Llais y Lle 2024, a dwi’n gwbl hyderus bydd y rhain yn cael yr un effaith.” 

Mae Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST, y cwmni y tu ôl i AM, yn edrych ymlaen at hyrwyddo Llais y Lle: "AM ydy’r platfform digidol cyntaf Cymru sy’n benodol ar gyfer darganfod creadigrwydd Cymreig, boed hynny'n ddrama, llenyddiaeth, cerddoriaeth neu ffilmiau, does dim terfyn. 

"Mae gwerthoedd Llais y Lle a Chyngor y Celfyddydau yn cyd-fynd, rydym eisiau hyrwyddo creadigrwydd cymunedol yng Nghymru, ac rydyn ni wrth ein boddau o'u cael nhw yn rhan o’n platfform". 

I ymweld â'r sianel newydd ar AM ac i ddarllen mwy am brosiectau Llais y Lle, dilynwch: Llais y Lle 2023 - Llais y Lle | AM (amam.cymru)