Gall artistiaid o Gymru sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu problemau iechyd meddwl gael mynediad at sesiynau ymarfer myfyriol creadigol, am ddim, i gefnogi eu llesiant eu hunain fel rhan o gam newydd o gefnogaeth gan raglen Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru ‘Sut mae’n Mynd?’, sy’n cael ei chyllido gan Sefydliad Baring.
 
Mae’r artistiaid Alison O’Connor, Jain Boon a Cai Tomos yn cyflwyno’r rhaglen ymarfer myfyriol creadigol i gymheiriaid ledled Cymru.

Ymarferion somatig creadigol 

Bydd Jain, gwneuthurwraig theatr ac ymarferydd profiadau somatig, yn ymuno ag Alison, therapydd integreiddiol a goruchwylydd clinigol â 25 mlynedd o brofiad. Byddant yn cynnig set o ymarferion somatig creadigol i gefnogi system nerfol artistiaid ac yn cynnig cyfres o ymarferion, a’u gwahodd i fyfyrio ar eu gwaith a’u llesiant drwy lens dosturiol.
 
Bydd Cai yn cynnig sesiynau un-i-un ar-lein i artistiaid sy'n siarad Cymraeg sydd eisiau cael cymorth i fyfyrio ar eu hymarfer ac effaith eu cleientiaid a’u cyd-destun neu sefydliad ar yr hyn maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud, drwy ddefnyddio fframwaith cefnogol seicotherapiwtig sydd wedi’i lywio gan drawma.
 
Gall gweithwyr llarwydd creadigol gofrestru ar gyfer y cyfle hwn, sy’n rhad iawn o ran cost, ac ar ôl iddynt gwblhau’r cyrsiau cychwynnol, gallant barhau i gael mynediad at sesiwn galw heibio misol er mwyn cynnal y cymorth hwn.
 
Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â’r hyn y mae cydweithwyr yn Lloegr (Arts and Health Hub) ac Iwerddon (Minding Creative Minds) yn ei wneud i gefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol artistiaid llawrydd. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio unwaith eto gyda’r arbenigwraig celfyddydau ac iechyd Jane Willis, i ymwreiddio gwerthuso creadigol drwy gydol y rhaglen hon.
  
“Mae wedi bod yn anodd i artistiaid llawrydd yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag effeithiau ariannol, corfforol ac emosiynol y pandemig wedi gwaethygu yn sgil costau cynyddol,” dywedodd Angela Rogers. “Rydyn ni mor falch o gael gweithwyr proffesiynol mor arbennig â Cai, Jain ac Alison yn rhan o’r cam newydd hwn o waith ac i fod yn gweithio gyda’r arbenigwraig celfyddydau ac iechyd Jane Willis i ymwreiddio gwerthuso creadigol drwy gydol y rhaglen hon. 
 
“Gall bod yn artist llawrydd fod yn wych ond gall fod yn unig hefyd, yn enwedig pan rydych chi’n gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl neu gyda phobl sy’n wynebu problemau iechyd meddwl. Dywedodd cynifer o artistiaid eu bod nhw wedi cael rhywbeth gwerthfawr o’r rhaglen beilot, felly rydyn ni wrth ein bodd yn gallu cynnig dwy flynedd arall o opsiynau llesiant creadigol newydd ac arloesol i adeiladu ar y cymorth hwnnw.” 

Ymarferion somatig creadigol 

Mae Jain, Alison a Cai yn cyflwyno un rhan o’r rhaglen dwy flynedd, sy’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Baring. Nod ‘Sut mae’n Mynd?’ yw adeiladu ar lwyddiant cyfnod peilot llwyddiannus yn 2021-2022 a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, lle cafodd artistiaid llawrydd fynediad at ystod o gymorth am ddim ar gyfer eu llesiant emosiynol a meddyliol yn sgil pandemig COVID-19. Bydd y cam diweddaraf hwn nid yn unig yn cefnogi artistiaid llawrydd unigol ond y seilwaith ehangach hefyd drwy gefnogi mudiadau celfyddydol i ddatblygu strategaethau a chynlluniau llesiant cadarn. 
 
“Ein nod [gyda’r rhaglen hon] yw creu gofod diogel, cyfrinachol lle gall artistiaid fyfyrio ar y gwaith maen nhw’n ei wneud,” dywedodd Jain. Mae cyn gyfranwyr wedi dweud bod eu sesiynau ymarfer myfyriol creadigol wedi rhoi caniatâd iddyn nhw. Lle sy’n derbyn a lle diogel i rannu. Mae unigolion wedi sylwi bod y corff yn meddalu.”
 
Cewch fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn, a manylion ar sut i gadw eich lle, ar ein safle Eventbrite.