Kabantu - Dydd Iau 21 Medi, 19.30
Mae ensemble clodwiw Kabantu yn dathlu’r gofodau lle mae diwylliannau gwahanol yn cyfarfod. Mae’r pedwarawd acwstig o Fanceinion yn cyflwyno cerddoriaeth wreiddiol eclectig wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, ac wedi’i hysgrifennu ar y cyd a’i pherfformio â’u harddull unigryw.
Mae Kabantu yn golygu "o’r bobl" - yn deillio o athroniaeth Ubuntu De Affrica: "Fi yw pwy ydw i oherwydd pwy ydyn ni i gyd".
Bydd eu cerddoriaeth wirioneddol wreiddiol yn eich cludo o’r ceilidh Albanaidd aflafar i farchnad stryd yn India, ac yn ôl i arfordir garw Cymru.
Mae rhaglen Kabantu yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth offerynnol a lleisiol gan gynnwys “No Change” (rîl Albanaidd wreiddiol gyda thro Caribïaidd), “L’etranger” (darn ergydiol bachog yn seiliedig ar linell o nofel enwog Albert Camus) a “Rhoscolyn” (alaw werin mwy traddodiadol, wedi’i hysbrydoli gan arfordir Môn).
Katie Foster - violin, whistling, vocals
Ben Sayah - guitar, vocals
Ali McMath - double bass, didgeridoo, banjo, vocals
Delia Stevens - percussion, vocals
Bydd cyngerdd dwyieithog ‘Gorwelion y Gair / The Horizon of Words’ ar nos Wener 22 Medi yn cynnwys Corau Meibion Bro Glyndŵr & Threlawnyd, Côr BSL Dee Sign, y grŵp gwerin Cymreig Pedair a’r bardd Aled Lewis Evans. Mae’r albwm, ‘Mae ‘Na Olau’ gan Pedair, newydd gael ei henwi fel Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ddydd Sadwrn 23 Medi, bydd cerddorfa breswyl yr ŵyl NEW Sinfonia yn ymuno â’r pianydd Cymreig Teleri-Siân a’r feiolinydd Americanaidd Tai Murray, sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n “dechnegol ddi-fai … bywiog a phefriol”. Mae eu rhaglen yn cynnwys ‘The Four Seasons of Buenos Aires’ gan Piazzolla ac ‘An American in Paris’ a ‘Rhapsody in Blue’ gan Gershwin.
Ar ddydd Iau 28 Medi bydd y pianydd o Ganada Janina Fialkowska “un o Foneddesigion Mawreddog canu’r piano” yn perfformio datganiad o weithiau Schubert, Brahms a Chopin. Mae Janina wedi swyno cynulleidfaoedd a beirniaid ledled y byd ers dros 40 mlynedd.
Mae rhaglen y delynores Gymreig Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ní Bhriain ar nos Wener 29 Medi yn cynnwys casgliad cain o gyfansoddiadau newydd sy’n tynnu ysbrydoliaeth o wahanol genres a diwylliannau eu gwledydd cartref, gan fynd â gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon.
Mae’r cyngerdd clo ar ddydd Sadwrn 30 Medi yn gyngerdd i ffarwelio ag Ann Atkinson, sy’n rhoi’r gorau i’w swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ar ôl 20 mlynedd. Bydd yn cynnwys NEW Sinfonia, Côr Cymunedol NEW Voices, yr unawdwyr Lisa Dafydd soprano, Dafydd Jones tenor, Ann, mezzo soprano medrus, a’i gŵr Kevin Sharp, bariton.
Mae yna gyngherddau boreol gyda’r gitarydd clasurol Jonathan Richards ac Ensemble Cymru. Mae’r clarinetydd Peryn Clement-Evans a’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth siambr wedi’i hysbrydoli gan farddoniaeth a ddewiswyd gan Aled Lewis Evans ar y thema gorwelion.
Mae yna hefyd ddosbarthiadau meistr, gweithdai, cyngerdd Dementia Gyfeillgar a Chynhwysol gyda’r pianydd Iwan Owen, a chyngherddau Ysgolion a Phlant bach gyda’r feiolinydd byrfyfyr Billy Thompson.
Tocynnau ar gael o Theatr Clwyd - 01352 344101 (Llun-Sad, 10-6) a Fframiau'r Gadeirlan, Llanelwy - 01745 582929 (Mercher-Gwener, 10-4). I gael rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl ac archebion ar-lein ewch i nwimf.com.