Tu Hwnt i Eiriau: Cyfathrebu effeithiol gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y gweithle.
Dyluniwyd yr hyfforddiant hwn i’ch grymuso gyda strategaethau ymarferol i wella cyfathrebu, creu timau cryfach, a hyrwyddo cynhwysiant yn eich sefydliad. Ymunwch â ni am weithdy wedi ei deilwrio i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gweithle cynhwysol.
Pam Ddylech Chi Ymuno?
- Llunio Timau Cynhwysol: Dysgwch am dechnegau i greu diwylliant gweithle sy’n croesawu cryfderau pob aelod o’r tîm, gan gynnwys y rhai ag anghenion cyfathrebu amrywiol.
- Gallu Addasu: Dysgwch sut i addasu eich arddull gyfathrebu i sicrhau bod pawb, beth bynnag ei allu, yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i glywed.
- Meithrin Dealltwriaeth: Dewch i ddeall safbwyntiau unigryw unigolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, gan feithrin gweithle lle gall pawb ffynnu.
Beth i’w Ddisgwyl:
- Dysgu Rhyngweithiol: Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ac ymarferion ar sail drama dan arweiniad hwyluswyr profiadol ac actorion talentog ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
- Archwilio Diogel: Camwch i amgylchedd diogel a chefnogol lle byddwch yn archwilio agweddau heriol ar gyfathrebu, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i feithrin cynhwysiant.
- Cydweithio ar ei Orau: Gweithiwch ochr yn ochr ag actorion sy’n dod â’ u safbwyntiau unigryw, gan gael dealltwriaeth werthfawr i’w defnyddio wrth ryngweithio â chydweithwyr.
Cynnwys y cwrs:
- Torri’r ia trwy ddramâu byrion difyr
- Dwy ffilm fer am gyfathrebu
- Trafodaethau grŵp: am yr hyn sy’n gyfathrebu effeithiol a chynhwysol/terminoleg ac iaith gadarnhaol
- Cyfleoedd anffurfiol i sgwrsio gydag Actor Hijinx a’r Hwylusydd.
- Cyfeirio at adnoddau pellach
Manylion y Digwyddiad
- Dyddiad: Ebrill 18
- Amser: 1.30pm -3.30pm
- Lleoliad: Zoom
Archebwch eich lle. https://www.tickettailor.com/events/hijinxtheatre/1116552