Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gyhoeddi'r ychwanegiad diweddaraf at y cast ar gyfer ei sioe pantomeim eleni, Beauty and the Beast. Mae Hugo Joss Catton, sy’n dalentog tu hwnt, wedi'i gadarnhau fel yr actor fydd yn chwarae rôl y Tywysog Hilarion, sydd wedi’i felltithio gan y wrach gas, Hecate, i ymddangos fel bwystfil.

Wedi graddio o Academi Gerdd a Chelf Ddramatig Llundain (LAMDA) ac Ysgol Actio Guildford, bydd Hugo Joss Catton yn dod â chyfoeth o brofiad i lwyfan Glan yr Afon. Mae ei bortffolio yn amrywio o deithiau rhyngwladol i fawredd y West End yn Llundain. Cyd-sefydlodd Hugo gwmni theatr Burlesque teithiol enwog, "Brass Monkey Burlesque," lle mae'n ymgymryd â rôl Meistr y Seremonïau carismatig.

"Rydym yn falch iawn o groesawu Hugo Joss Catton i deulu Glan yr Afon," meddai Jamie Anderson, Rheolwr Datblygiad Creadigol yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. "Bydd ei dalent yn ychwanegiad gwych at aelodau'r cast presennol, a fydd, heb os, yn rhoi profiad bythgofiadwy i'n cynulleidfaoedd."

Ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliodd Glan yr Afon ei Ddiwrnod Gwasg ar gyfer y Panto, lle daeth aelodau'r cast ynghyd i greu fideo hudolus a fydd, cyn bo hir, yn rhoi rhagflas i ni ar bantomeim 2023, a'r penwythnos hwn cynhaliwyd y clyweliadau ar gyfer y Cwmni Ifanc. Roedd yr ymateb yn ddim llai na anhygoel. O gyhoeddiadau cast, sesiynau ffotograffiaeth i glyweliadau ar gyfer y cwmni ifanc, mae'r cyffro pantomeim yn Theatr Glan yr Afon yn amlwg wrth i'r iddi osod y llwyfan am flwyddyn ysblennydd.

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y cast a'r tîm creadigol anhygoel hwn yn Theatr Glan yr Afon yn arddangos y cynhyrchiad arbennig hwn a grëwyd gan yr un tîm creadigol â'r sioeau hynod lwyddiannus Cinderella a Robin Hood. Mae'r pantomeim hudolus hwn yn argoeli i fod yn uchafbwynt tymor theatrig 2023.

Bydd Beauty and the Beast yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon rhwng 29 Tachwedd a 6 Ionawr. I archebu tocynnau a sicrhau'r dyddiadau rydych chi eu heisiau ewch i wefan Glan yr Afon neu ffoniwch dîm y swyddfa docynnau ar 01633 656757.