BYDD CYNULLEIDFAOEDD YN CYCHWYN AR DAITH I CHWILIO AM YSBRYDION AC YN TROI YN HELWYR YSBRYDION (YN Y CNAWD) NEU YN CHWARAE RHAN Y RHAI SYDD NEWYDD FARW (AR-LEIN). 60 MUNUD O HWYL, DATRYS POSAU A DIRGELWCH LLOFRUDDIAETH, Â’R GYNULLEIDFA’N PENDERFYNU ‘PWY SY’N EUOG?’.

Mae’r cwmni theatr proffesiynol a enillodd lu o wobrau, Hijinx, sy’n adnabyddus am ei theatr gyffrous, chwyldroadol lle mae artistiaid gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn rhan o bob cam o’r broses greadigol a’r perfformiad, wedi creu ei gynhyrchiad mwyaf arloesol hyd yn hyn ar gyfer dechrau 2024!

Mae Meta vs Life Hijinx yn brofiad hybrid unigryw o theatr byw a gêm ar-lein fydd yn uno cyfeillion a chydweithwyr o bellafoedd daear i ymuno yn y cnawd ac ar-lein – ar yr un pryd. Gyda’i gilydd bydd cynulleidfaoedd yn cychwyn ar daith i archwilio’r byd ar ôl marwolaeth trwy gymysgedd iasol a blaengar o chwedleua traddodiadol, perfformiad byw a datrys problemau rhyngweithiol sy’n rhannol yn ddirgelwch llofruddiaeth, rhannol profiad dianc o ystafell ac yn rhannol yn chwarae gêm ar-lein.

Ar ôl ymgynnull o flaen Arcêd Morgan yng nghanol Caerdydd, bydd y gynulleidfa yn y cnawd yn cyfarfod Tom Leer, sylfaenydd Helwyr Ysbrydion Caerdydd ac aelod o’r pwyllgor. Bydd Tom yn rhannu ychydig o hanes yr ardal ac yn arwain y gynulleidfa ar daith ysbrydion a all fynd yn groes i’r bwriad!

Bydd y gynulleidfa yn y cnawd yn chwarae ochr yn ochr ag actorion fel yr ‘helwyr ysbrydion’, gan ryngweithio gyda’r ‘rhai newydd farw’, sy’n cael eu chwarae gan eu cyfeillion ar-lein. Dim ond trwy ddod o hyd i ffyrdd i weithio gyda’i gilydd y bydd chwaraewyr yn datrys y dirgelwch am sut y bydd y meirw yn cyrraedd eu diwedd. Yn ddelfrydol ar gyfer parau o ffrindiau (neu grwpiau mwy) i wneud y mwyaf o hwyl y digwyddiad wrth iddo gael ei ddatgelu yn ogystal â’r cyfle i gyfnewid nodiadau am fanylion dirgel wedyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Hijinx ad Chyd-gyfarwyddwyr Meta vs Life, Ben Pettitt-Wade

“Yr hyn yr wyf yn ei weld yn wirioneddol gyffrous am Meta vs Life yw’r potensial i ddod â phobl at ei gilydd nad ydyn nhw’n gweld ei gilydd yn aml, gan gynnig profiad fydd yn digwydd yn y cnawd ac ar-lein yr un pryd. Felly, os ydych yn byw yng Nghaerdydd, ond â ffrindiau, aelodau o’r teulu neu hyd yn oed gydweithwyr sy’n byw mewn rhannau eraill o’r wlad neu dramor, rydym yn cynnig cyfle i chi gysylltu mewn profiad hwyliog a rhyngweithiol. Rydym yn eich annog i archebu mewn parau, neu fel grwpiau, yn y cnawd ac ar-lein. Bydd adegau yn ystod y perfformiad pan fydd eich storïau yn cysylltu, ac adegau pan fyddwch ar lwybrau gwahanol, felly rhan o’r hwyl yn sicr fydd gallu cymharu nodiadau wedyn.”

Ychwanegodd yr ymarferwr theatr sy’n gweithio yn Llundain a Chyd-gyfarwyddwr Meta vs Life, Matthew Blake:

“Rwyf wedi gwirioni o gael ymuno â Hijinx unwaith eto, a’r tro hwn yn cael plymio i fyd gwyllt ‘Meta vs Life’. Mae cyd-gyfarwyddo prosiect sy’n edrych ar gyfuno perfformiad rhyngweithiol, bywyd go iawn a gêm ar-lein, wedi eu cyfuno mewn stori arswyd, yn teimlo fel y gwrthgyferbyniad perffaith i nosweithiau oer y gaeaf. Allai ddim aros am gael bod yn rhan o brofiad mor flaengar sy’n gwthio ffiniau chwedleua traddodiadol gyd chwmni theatr sy’n gwthio ffiniau i’r un graddau.”

Mae datblygu profiad hybrid ar-lein/yn y cnawd gan Hijinx wedi bod yn esblygol, gan gychwyn yn 2020 gyda’i brofiad ar-lein a dderbyniodd glod gan y beirniaid Metamorphosis. Ar ôl iddo gael ei ddarlledu yng Ngŵyl Ar-lein y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Fringe Caeredin a Gŵyl Grenzenlos Kultur, enillodd Metamorphosis y gwobrau Cyfarwyddwr Gorau a Defnydd Blaengar Gorau o Dechnoleg yn y Gwobrau Rhyngwladol Good The@tre Festival yr un flwyddyn. Gan adeiladu ar ei lwyddiant, yn nes ymlaen datblygodd Hijinx the_crash.test yn 2022 a fu’n perfformio yng Nghaerdydd a’r Almaen, gan archwilio’r cysyniad o actorion a chynulleidfaoedd ar-lein ar yr un pryd â pherfformiad byw. 

Canolbwynt gwaith Hijinx bob amser yw ei artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, sydd yn herio’r amgyffrediad o’r hyn y gall theatr a ffilm fod a sut y dylent gael eu gwneud yn gyson. Nid yw’r cynhyrchiad hwn yn eithriad gyda’r cysyniad gwreiddiol o ddefnyddio séance a themâu o’r goruwchnaturiol yn dod gan actor Hijinx, Lindsay Spellman yn ystod sesiwn ymchwil ar gyfer Metamorphosis.

Ychwanegodd Lindsay:

“Hijinx yw’r cwmni theatr mwyaf adloniadol ond sy’n gweithio galetaf yr wyf yn ddigon ffodus i fod yn rhan ohono. Dyma’r seithfed sioe yr ydym wedi eu gwneud gyda’n gilydd, ac yn bendant dyma’r fwyaf uchelgeisiol. Mae Meta vs Life yn trafod yr hyn nad ydym yn ei wybod, bywyd ar ôl marwolaeth a sut allai hynny fod. Bydd y sioe yn hwyl ond yn iasol hefyd…..ond ddim yn rhy erchyll. Rwy’n hoffi meddwl, os dewch chi i weld hon, y byddwch yn gadael wedi eich dychryn, eich synnu, eich difyrru ac am ddweud wrth eich holl ffrindiau amdani."

Bydd y ‘meirw’ ar-lein yn ymuno â’r digwyddiad o’u cartrefi neu orsafoedd gwaith, mewn bywyd ar ôl marwolaeth trwy gêm wedi ei hysbrydoli gan y 90au, yn gaeth mewn limbo picselog 2D. Anfonir dolen at y rhai sy’n cymryd rhan ar-lein i gael mynediad i’r porth i’r isfyd ar-lein, a elwir yn Gather.town, gyda chyfarwyddiadau llawn am sut i chwarae.

Mae Hijinx wedi llunio partneriaeth gyda’r arbenigwyr ystafelloedd dianc Americanaidd, Raid the Room, i helpu i gyflwyno digwyddiad rhyngweithiol diwnïad.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Raid the Room, Kevin Wong:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Hijinx ar eu prosiect arloesol gan ddefnyddio arbenigedd API Gather Town i helpu i ddod â’u gweledigaeth yn fyw. Fel hyrwyddwyr swyddogol Gather, rydym yn gweld llawer o brofiadau ar y llwyfan, ond rydym bob amser yn falch o weld timau yn gwthio’r llwyfan i’w heithaf gyda phrosiectau mor uchelgeisiol a chreadigol. Mae profiad hybrid ar-lein ac yn y cnawd Hijinx yn un gwirioneddol unigryw, ac rydym yn sicr y bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn ei weld yn brofiad fydd yn hwyl fawr!”

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y profiad yn y cnawd ac ar-lein yn https://www.hijinx.org.uk/meta-vs-life/ gan gynnwys canllawiau sut i wneud a chwestiynau cyffredin am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gyda’r annisgwyl.