• Cast a thîm creadigol o actorion-gerddorion wedi’i gadarnhau ar gyfer dychweliad sioe lwyddiannus 2021 Theatr y Sherman, a ysgrifennwyd gan Gary Owen a’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y Sherman, Joe Murphy
  • Mae A Christmas Carol wedi'i hanelu at bawb 7+ oed a'u teuluoedd
  • Mi fydd y perfformiadau ar 22/23 Tach yn rai Talwch Beth Fynnwch
  • Bydd cynhyrchiad Theatr y Sherman o Yr Hugan Fach Goch (yn Gymraeg) a Little Red Riding Hood (yn Saesneg), wedi’i anelu at blant 3 – 6 oed a’u teuluoedd, hefyd yn cael ei berfformio yn y Sherman ac yn mynd ar daith o gwmpas de Cymru

Heddiw mae Theatr y Sherman wedi cadarnhau cast ei chynhyrchiad o A Christmas Carol (23 Tachwedd 2024-4 Ionawr 2025), dychweliad sioe Nadolig 2021 y cwmni ar gyfer plant hŷn, y gwerthwyd pob tocyn, wedi’i addasu gan Gary Owen.

Mi fydd Hannah McPake yn dychwelyd i rôl Ebbie Scrooge yn y wledd Nadolig glodwiw hon gan un o ddramodwyr mwyaf Cymru ac awdur dramâu poblogaidd diweddar y Sherman Iphigenia yn Sblot a Romeo & Julie.

Mae Keiron Self hefyd yn dychwelyd i’r cynhyrchiad fel Jacob Marley/Mr Fezziwig/The Ghost of Christmas Future, yn ei 10fed sioe Nadolig gyda Theatr y Sherman.

Bydd gweddill y cast yn cynnwys Oliver Hoare , awdur a pherfformiwr yn Dance to the Bone (Neon Candle, Ceriann Williams a Theatr y Sherman), Owen Alun a swynodd gynulleidfaoedd yn Peter Pan Theatr y Sherman y llynedd, Catrin Mai Edwards a berfformiodd yn ddiweddar yn You’ve Got Dragons Cwmni Theatr Taking Flight ac Emily Ivana Hawkins a berfformiodd yn y perfformiad cyngerdd sgript-mewn-llaw O.G. Prince of Wales fis diwethaf. Cyhoeddir y cast terfynol yn fuan.

Caerdydd, 1843. Arian yw’r unig beth sydd gan Scrooge. Mae ganddi lawer ohono. Arian yw’r unig beth y mae erioed wedi ei gael ond nid yw wedi dod â llawenydd iddi erioed. Ond ar Noswyl Nadolig, bydd hi’n cwrdd â thri ysbryd a fydd yn dysgu’r wers fwyaf pwysig erioed iddi. Erbyn bore’r Nadolig, bydd hi wedi dysgu sut i fyw am y tro cyntaf.

Profwch lawenydd llawn y Nadolig - a gwyrth bythgofiadwy yn y brifddinas - gyda’r addasiad llawen a thwymgalon hwn o stori ddyrchafol Dickens, a berfformir gan gast eithriadol o actor-gerddorion.

Yn ymuno â'r Cyfarwyddwr Joe Murphy yn y tîm creadigol mae'r Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate, y Cyfansoddwr Lucy Rivers, y Dylunydd Hayley Grindle, y Dylunydd Sain a Gweithredydd Sain Josh Bowles a'r Dylunydd Goleuo Andy Pike. Mae’r dylunio sain gwreiddiol gan Ian Barnard.

Dros y pedwar degawd diwethaf, mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob rhan o dde Cymru i hud y theatr – gyda ‘twist’ bob tro. Eleni, mae’r cwmni’n cynhyrchu A Christmas Carol ochr yn ochr â chynhyrchiad teithiol newydd sbon o Yr Hugan Fach Goch (yn Gymraeg) a Little Red Riding Hood (yn Saesneg), a gefnogir gan Theatr Genedlaethol Cymru. Caiff ei berfformio yn Theatr y Sherman cyn teithio de Cymru.