g|39 Caerdydd

10/04/24 - 25/05/24

Ar agor: Dydd Mercher - Dydd Sadwrn, 11yb-5yp

Mae'n bleser gan y Romani Cultural & Arts Company (RCAC) gyhoeddi rhifyn diweddaraf eu prosiect arloesol - Gypsy Maker (Gypsy Makers) yn g|39. Arddangosfa deithiol newydd yw Gypsy Makers, a fydd yn cynnwys gwaith gan artistiaid y mae’r RCAC wedi’u comisiynu ers dechrau menter Gypsy Makers yn 2014. Bydd arddangosfa deithiol Gypsy Makers yn dangos gweithiau celf newydd a phresennol i nodi deng mlynedd ers sefydlu’r rhaglen, a gefnogir yn llawn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd gweithiau celf o bob un o sioeau Gypsy Makers yn cael eu cynnwys er mwyn cynrychioli’r ystod lawn o leisiau ac arferion amrywiol y mae’r rhaglen GM wedi’u llwyfannu hyd yma yn y ffordd orau. Bydd gweithiau celf presennol o gasgliad celf RCAC, yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gweithiau celf newydd eu comisiynu a wnaed yn arbennig ar gyfer arddangosfa 2024. I gyd-fynd â thaith Gypsy Makers, bydd rhaglen o weithdai dan arweiniad artistiaid a fydd yn ehangu ar themâu o fewn y sioe ac yn addysgu cynulleidfaoedd ymhellach ynghylch arfer pob artist.

Bydd Gypsy Makers yn cynnwys gweithiau gan yr artistiaid Daniel Baker, Billy Kerry, Artur Conka, Corrina Eastwood, Cas Holmes, Rosamaria Kostic Cisneros, Shamus McPhee a Dan Turner ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae menter Gypsy Makers yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithiau creadigol arloesol gan artistiaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae arddangosfa Gypsy Makers yn 2024 yn ehangu gwaith y RCAC drwy barhau i ymgysylltu cymunedau SRT â’r cyhoedd ehangach mewn deialog barhaus am y ffyrdd y mae celf yn parhau i lywio ein bywydau heddiw.

Ffurfiwyd The Romani Cultural and Arts Company (RCAC) gan ei Gyfarwyddwr, Isaac Blake, ym mis Medi 2009 fel elusen gofrestredig. Gan weithio drwy’r celfyddydau, mae’r RCAC yn codi arian i gynnwys prosiectau datblygu cymunedol a chelfyddydol ac addysgol i safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT) ac i gymunedau ehangach nad ydynt yn rhai SRT ledled Cymru.

“Rydym mor falch o barhau â’n gwaith arloesol gydag artistiaid SRT, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y prosiect hwn yn cryfhau rôl Sipsiwn, Roma a Theithwyr ym myd y celfyddydau yng Nghymru, y DU a thu hwnt.” Isaac Blake; Cyfarwyddwr The Romani Cultural & Arts Company

“Mae gwaith arloesol yr RCAC wrth gefnogi artistiaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ddigyffelyb. Mae’r prosiect Gypsy Makers yn unigryw ledled y byd o ran comisiynu cyrff newydd o waith gan artistiaid SRT. Mae’n galluogi i wybodaeth newydd sylweddol gael ei chynhyrchu gan grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, ac mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i gelfyddyd gyfoes ryngwladol.” Dr Daniel Baker

Erys llawer o ragdybiaethau negyddol yn ymwneud â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r rhaglen Gypsy Maker wedi parhau i herio’r rhagdybiaethau hyn drwy gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o dreftadaeth ddynamig, hirsefydlog (ond cudd fel arfer) ymdrech artistig a chreadigrwydd o fewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fel sefydliad, mae’r RCAC yn dal yn frwd am y prosiect hwn a’i gwmpas i ychwanegu gwerth at dirwedd ddiwylliannol ac artistig Cymru a thu hwnt.