Mae Media Cymru a Ffilm Cymru Wales yn lansio Cronfa Datblygu newydd gyda'r nod o droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu cyfryngau cynaliadwy. 

Ffilm Cymru Wales a Media Cymru sydd wedi cynllunio ac sy’n cyflwyno Cronfa Datblygu Gwyrddio'r Sgrin.  Bydd y gystadleuaeth yn buddsoddi hyd at £50,000 mewn prosiectau i fusnesau cymwys ddatblygu ffyrdd arloesol o wneud y sector teledu a ffilm yng Nghymru yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Dan arweiniad  Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru BAFTA albert, rhaid i brosiectau cymwys ddangos sut y byddant yn lleihau effaith andwyol y sector ar yr amgylchedd. Mae Screen New Deal BAFTA albert yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol di-garbon a diwastraff drwy feysydd effaith allweddol:

  • Symud at ynni adnewyddadwy. 
  • Ail-feddwl am drafnidiaeth.
  • Ffordd gylchol o leihau gwastraff deunydd a bwyd.
  • Casglu gwybodaeth a chydweithio megis rhannu arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynhyrchu ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi.
  • Gosod a gwrthbwyso modelau busnes.
  • Cefnogaeth i gyflenwyr gwyrdd

Mae sector sgrin Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi tyfu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, gan greu llu o gynyrchiadau llwyddiannus ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol (Doctor Who, Sherlock, A Discovery of Witches, His Dark Materials, Sex Education, Hinterland, Dream Horse, Kensuke's Kingdom, Timestalker). 

Er bod y llwyddiant hwn wedi creu momentwm ac wedi codi uchelgais y diwydiant, ac er bod cynhyrchu ffilm a theledu yn dod â chyfres o fanteision i'r economi leol a GDP, mae ymchwil wedi dangos bod heriau sylweddol i'w hwynebu hefyd. 

  • Ar gyfartaledd mae cynhyrchu ffilm nodwedd â chyllideb fawr yn creu yn agos i 3,000 tunnell o garbon - cymaint â char disel yn cael ei yrru o gylch y byd 300 o weithiau
  • Defnyddiwyd pŵer disel mewn 91% o eneraduron ar y set yng Nghymru y llynedd
  • Dim ond 14% o'r cynyrchiadau sy'n cael eu ffilmio mewn stiwdios yn y DU sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy
  • Roedd teithio ar y ffordd yn gyfrifol am 80% o'r allyriadau trafnidiaeth a grëwyd gan gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru
  • Roedd 25% o'r pren a ddefnyddiwyd i adeiladau setiau ledled Cymru y llynedd wedi'i ailgylchu

Daw 94% o'r allyriadau bwyd o brydau â chig mewn cynyrchiadau yng Nghymru
Gyda dulliau arloesol o ddefnyddio technoleg yn dilyn y pandemig yn sbardun, mae'r sector yng Nghymru yn dangos addewid ar gyfer lleihau ôl troed carbon y diwydiant a cheir ymdrechion cynyddol i newid y ffordd mae cynyrchiadau yn gwneud eu gwaith. 

Trwy ddefnyddio technolegau cynhyrchu datblygedig fel stiwdios cynhyrchu rhithwir a phrosesau newydd, yn ogystal â thechnoleg VR a XR arbrofol i leihau'r angen i deithio i leoliadau a chynhyrchu propiau niferus (a gwastraff), mae cwmnïau cynhyrchu yn gwneud eu rhan i hybu lleihad yn eu gwastraff a sicrhau nad yw cynhyrchion a deunyddiau'n mynd i dirlenwi.

Nawr, diolch i Ffilm Cymru Wales a Media Cymru yn ogystal ag arweiniad ar leihau allyriadau a hybu cynaliadwyedd eu prosiectau, mae Cronfa Datblygu Gwyrddio'r Sgrin yn ategu ymrwymiad ehangach yn sector sgrin Cymru i ddod yn lasbrint i genhedloedd a rhanbarthau eraill yn y DU.

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, mae gan Ffilm Cymru a Media Cymru ddiddordeb arbennig mewn datrysiadau Cynaliadwy i heriau sero net a datgarboneiddio sector y sgrin, yn enwedig rhai sy'n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid diweddar Screen New Deal i Gymru.

Bydd tudalen ymgeisio  Cronfa Datblygu Gwyrddio'r Sgrin yn agor ar safle Media Cymru ar 20 Mai 2024, a bydd yn cau ar 28 Mehefin 2024. 

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru ac Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd: “Cyflwynodd Screen New Deal BAFTA albert lasbrint i ni ar gyfer symud sector teledu a ffilm Cymru i gyfeiriad cynaliadwyedd amgylcheddol. Ond mae'r cynnydd hyd yma wedi bod rhy hamddenol o lawer ac yn boenus o araf. Nod cronfa Gwyrddio'r Sgrin yw creu newid o bwys, gan ddefnyddio dulliau arloesol i helpu'r sector i sicrhau gostyngiad sylweddol yn ei ôl troed carbon dros y pum mlynedd nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r arloeswyr yn y sector ac ar draws y gadwyn gyflenwi i wneud Cymru'n fodel ar gyfer cynhyrchu sgrin gwyrdd.”

Ychwanegodd Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales, Louise Dixey: 
"Mae Screen New Deal:  Cynllun Trawsnewid i Gymru yn nodi meysydd blaenoriaeth i'r sector wrth iddo leihau ei ôl troed carbon a hefyd leihau gwastraff. Rydyn ni'n chwilio am ddatrysiadau arloesol fydd yn cefnogi gweithredu'r Cynllun Trawsnewid a phrosiectau cydweithredol yn y diwydiant fydd yn gatalysis ar gyfer newid...”