Mae Gŵyl NAWR, dathliad undydd o’r celfyddydau arbrofol, yn dychwelyd i ganolfan Tŷ Tawe yn Abertawe ar ddydd Sadwrn yr 2il o Dachwedd. 

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl llynedd, prif artist y digwyddiad eleni bydd y gitarydd Gwenifer Raymond a’i cherddoriaeth gyntefig sy’n tynnu o gerddoriaeth gwreiddiau Mississippi ac Appalachia. Yn dilyn set Gwenifer, bydd set gan y DJ o fri ac arwr y byd snwcer, Steve Davis, i gloi’r noson.

Mae'r lein-yp llawn hefyd yn cynnwys yr artist sain gweledol Teddy Hunter, yr artist electronig arbrofol Ffrancon, a'r ddeuawd pop finiog Yeah You, a llawer mwy ar draws dau lwyfan.

Mae'r ŵyl yn cychwyn gyda chyfres o drafodaethau a pherfformiadau llafar, gan gynnwys trafodaeth ar nofel Y Dydd Olaf a'r albwm a ysbrydolodd yn cynnwys y cerddor byd-enwog Gwenno, y cyfieithydd Emyr Wallace Humphreys, a'r arbenigwr ffuglen wyddonol Gymraeg Dr Miriam Jones. Bydd hefyd trafodaeth banel gan CoDi Dan-Ddaear, rhwydwaith ledled Cymru o artistiaid sain arbrofol, a pherfformiadau gan y beirdd Tess Wood, Camilla Nelson, a Nia Davies. 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys tri darn newydd o waith gan Radio Free Ponty, Cynghrair Cerddoriaeth Arbrofol Cymru (WEMA), a Byrfyfyrwyr De Cymru (SWI), a gomisiynwyd yn arbennig diolch i gefnogaeth gan Tŷ Cerdd a’r gronfa Creu.  

Mae Gŵyl NAWR 2024 yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar y cyd rhwng NAWR a Menter Iaith Abertawe.

Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a'r Gelli Gandryll sy’n cynnwys cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin, a cherddoriaeth newydd. Nod gwaith NAWR yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar ac agos. Mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran fwynhau a defnyddio’r Gymraeg yn yr ardal.

Mae tocynnau i’r diwrnod dim ond £15 o flaen llaw ac ar gael nawr trwy Ticketsource

Mae'r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.