Bydd gwaith gan geramegyddion blaenllaw a gwneuthurwyr datblygol o Gymru yn cael ei arddangos mewn dau ddigwyddiad am ddim a fydd yn rhan o Ŵyl Grefft Cymru yn Aberteifi.
Mae Significant Forms, a guradir gan Peter Bodenham ac a gyflwynir yn oriel gelf gyfoes Aberteifi, Canfas, yn arddangosfa o gerameg o safon amgueddfa o Gymru. Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith detholiad eclectig o wneuthurwyr sy'n arddangos yn rhyngwladol yn rheolaidd. Mae mynediad i'r arddangosfa hon am ddim a bydd yn rhedeg rhwng 6 Medi ac 8 Hydref 2024.
Mae’r Llwybr Crefft, mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin, yn cyflwyno gwaith newydd gan chwe gwneuthurwr datblygol. Ysbrydolwyd y gwaith newydd hwn gan y casgliadau a gedwir yn yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru (NCAGW), sef menter newydd bwysig a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygir ac a reolir drwy gydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Lleoliadau’r llwybr yw Mwldan, The Albion by Fforest, Crwst, Cardigan Bay Brownies, Awen Teifi, a Make it in Wales. Bydd yn rhedeg am dair wythnos o ddechrau Medi 2024.
Meddai Sarah James: “Mae Gŵyl Grefft Cymru yn ymgodi o uchelgais hirsefydlog i greu digwyddiad o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar grefft yn Aberteifi. Mae gan Gymru gyfoeth anhygoel o ddoniau creadigol, yn enwedig mewn cerameg, ac mae Significant Forms yn cynrychioli rhai o'r gwneuthurwyr gorau o bob rhan o'r wlad.
“Mae'r Llwybr Crefft yn gyfle i arddangos doniau datblygol ac i amlygu pwysigrwydd ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol a'u casgliadau drudfawr. Trwy gyfuno hyn â'r Ŵyl Grefft yng Nghastell Aberteifi, bydd yn ddigwyddiad diwylliannol heb ei ail.”
Yr artistiaid sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer Significant Forms yw:
- Justine Allison (crochenydd o Orllewin Cymru sy'n gweithio gyda phorslen o waith llaw)
- David Binns (ceramegydd o Ogledd Cymru sy'n gwneud llestri cerfiedig gwydrog unigryw)
- Peter Bodenham (crochenydd, artist gweledol, a churadur. Mae Peter yn berchen ar Grochendy Llandudoch ac enillodd y Fedal Aur am grefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011)
- Adam Buick (ceramegydd o Dyddewi sy'n defnyddio un jar pur fel cynfas i fapio’i arsylwadau ar sail astudiaeth o'i amgylchoedd)
- Jin Eui Kim (yn wreiddiol o Dde Corea, ond nawr yn byw yng Nghaerdydd – ceramegydd dawnus sy’n enwog yn fyd-eang am ei ffurfiau ceramig tri dimensiwn)
- Anne Gibbs (ceramegydd o Gaerdydd sy'n gwneud cerfluniau haniaethol bach, mewn porslen a tsieni esgyrn yn bennaf)
- Catrin Howell (ceramegydd o Orllewin Cymru sy'n creu ffurfiau anifeiliaid cain a ysbrydolir gan chwedl, myth, a ffantasi)
- Ingrid Murphy (artist o Iwerddon sy'n byw yng Nghymru ac y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar helaethu arteffactau ceramig yn defnyddio amrediad o dechnolegau rhyngweithiol.
- Paul Wearing (ceramegydd o Gaerdydd sy'n cynhyrchu crochenwaith caled a fasys porslen o waith llaw)
- Deiniol Williams (ceramegydd Cymreig sydd nawr yn byw yn Swydd Efrog. Mae ei grochenwaith caled sydd wedi'i danio â phren yn archwilio'r ddeuoliaeth rhwng rhythm ac anghytgord, cydbwysedd ac anhrefn)
Meddai Peter Bodenham: “Mae Significant Forms yn arddangos gwaith deg crochenydd ac artist cyffrous sy’n gweithio gyda chlai yng Nghymru. Mae ganddynt bob un broffiliau arddangos cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynrychioli cryfder ac amrywiaeth cerameg gyfoes ledled Cymru heddiw. Mae’r arddangosfa’n cynnwys llestri hynod atseiniol ynghyd â cherflunwaith haniaethol a gweithiau ffigurol, ac mae’n enghreifftio gwneud traddodiadol ynghyd â gwaith sy’n cofleidio technolegau newydd.
“Mae Cymru’n cynhyrchu ac yn meithrin amrediad gwych o artistiaid cerameg yn gyson oherwydd ei hetifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog, ei hamgueddfeydd a’i horielau gyda’u casgliadau cerameg pwysig, ei chrochenyddion a’i chanolfannau addysgol sy’n darparu cyrsiau cerameg o hyd. Mae Significant Forms yn arddangos agweddau ar ansawdd a pherthnasedd diwylliannol y gerameg a gynhyrchir yng Nghymru, yn y dref sy’n fan geni’r Eisteddfod Genedlaethol.”
Y gwneuthurwyr sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer Llwybr Crefft yw:
- Ella Bua-In (ceramegydd o Aberteifi)
- Ffion Evans (artist tecstilau o Ogledd Cymru)
- Rosa Harradine (gwneuthurwr ysgubellau a brwshys o Gaerfyrddin)
- Rosie Lake (artist tecstilau o Gaerfyrddin)
- Lewis Prosser (gwneuthurwr basgedi o Benarth)
- Hannah Walters (ceramegydd o Gaerdydd)
Meddai Catherine Spring, rheolwr Oriel Myrddin: ‘Rydym wrth ein bodd o gael bod yn rhan o Ŵyl Grefft Cymru / Craft Festival Wales. Rydym yn arbennig o falch o gael cydweithredu am y tro cyntaf gyda NCAGW, sy’n comisiynu chwe artist gyrfa gynnar cyffrous o Gymru, a fydd yn cael eu harddangos mewn sawl lleoliad yn Aberteifi yn ystod yr Ŵyl Grefft tra llwyddiannus fis Medi eleni.”
Cynhelir Gŵyl Grefft Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a QUEST, dros dri diwrnod yng Nghastell Aberteifi o 6 - 8 Medi 2024.
Bydd y digwyddiad yn arddangos detholiad eithriadol a ddewiswyd yn ofalus o tua wyth deg o wneuthurwyr o bob rhan o Gymru a'r DU – yn cynnwys gwneuthurwyr gemwaith, crochenyddion, gwneuthurwyr dodrefn, artistiaid tecstilau, gwneuthurwyr gwydr a llawer mwy – a phob un yn gwerthu cynhyrchion coeth, unigryw yn uniongyrchol i'r cyhoedd.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn croesawu pobl o bob oedran ac yn cynnig rhaglen o weithdai crefft cyffrous, arddangosiadau, a dosbarthiadau meistr gan rai o wneuthurwyr blaenllaw'r DU. Dros y penwythnos yn y castell, bydd Pabell Grefft i Blant, gyda chymorth Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Coleg Sir Gâr a Theatr Byd Bach, yn cynnig cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl ar yr un pryd.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn rhan o'r portffolio o ddigwyddiadau a drefnir gan Sarah James MBE a Nina Fox, sydd hefyd yn trefnu'r Ŵyl Grefft arobryn yn Bovey Tracey a Gŵyl Grefft Cheltenham. Sefydlwyd Gŵyl Grefft yn 2004 fel cwmni nad yw'n gwneud elw ac mae'n dathlu ei 20fed Pen-blwydd yn 2024. Mae'r digwyddiad wedi tyfu o 2,000 o ymwelwyr i dros 10,000 ers iddo gychwyn ac mae wedi dod yn un o'r digwyddiadau mwyaf clodfawr yn Ewrop.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn cael ei chynhyrchu mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a QEST.
Y partneriaid yw: Castell Aberteifi, Cered – Menter Iaith Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Discover Ceredigion, Llantarnam Grange, Make it in Wales, Mwldan, Amgueddfa Wlân Cymru, Oriel Myrddin Gallery (Cyngor Sir Gâr), Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elisabeth (QEST) a Sea & Slate.
Y cefnogwyr yw: Awen Teifi, Canfas, Cyngor Tref Aberteifi, Cardigan Bay Brownies, Coleg Ceredigion, Crwst, Fforest a Theatr Byd Bach.
Am ymholiadau gan y cyfryngau yn cynnwys lluniau, ceisiadau am gyfweliadau ac achrediad ar gyfer y digwyddiad: Elin Rees - elinreescomms@gmail.com