Cerdd hynod deimladwy a ysgrifennwyd gan fardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i gyngerdd mewn gŵyl gerddorol o fri.
Mae’r gerdd, Y Gorwel, yn cysylltu â thema Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy a gynhelir o ddydd Gwener, Medi 15 tan ddydd Sadwrn, Medi 30.
Fe’i hysgrifennwyd gan John Evans, prifathro yn Llanegryn ger Tywyn, Gwynedd, taid Aled Lewis Evans, o Wrecsam, sydd hefyd yn fardd arobryn.
Mae’r gerdd yn disgrifio hen ŵr yn syllu allan ar draws Bae Ceredigion o’i gartref yn ardal y Bermo yng Ngwynedd ac yn edrych yn ôl i’w blentyndod a sut roedd diniweidrwydd ieuenctid yn edrych i orwel ei ddyfodol heb wybod am ing a gwae bywyd.
Bydd Aled, sy’n weinidog, yn cymryd rhan yn y cyngerdd dwyieithog, Gorwelion y Gair, yn yr ŵyl ar Fedi 22, pan fydd yn darllen rhai o’i gerddi ei hun.
Mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys corau meibion Trelawnyd a Bro Glyndŵr a Chôr BSL Dee Sign yn ogystal â’r pedwarawd gwerin poblogaidd, Pedair.
Bydd y gerdd hefyd yn ymddangos mewn cyngerdd Cerddoriaeth Siambr gyda barddoniaeth ar fore Medi 28. Bydd clarinetydd Ensemble Cymru Peryn Clement-Evans a’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn perfformio cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan farddoniaeth a ddewiswyd gan Aled ar thema gorwelion.
Mae’r cyfan wedi’i wneud yn bosibl diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a phrif noddwr yr ŵyl, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT). Mae noddwyr eraill yn cynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Celfyddyd a Busnes Cymru a Tŷ Cerdd.
Enillodd taid Aled y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ddwy flynedd yn ddiweddarach. Meddai: “Pan ofynnodd Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, Ann Atkinson, i mi am awgrymiadau ar gyfer cyngerdd yn nigwyddiad eleni ar y thema ‘Gorwelion’, buan iawn y daeth cerdd, Y Gorwel, i’r meddwl.
“Mae’n sôn am rai yn croesi’r gorwel i ryfeloedd byd, a ddim yn dychwelyd. Ar ddiwedd y gerdd mae’n edrych at y gorwel olaf sef marwolaeth, a thu hwnt. Mae’n ei wynebu’n hyderus ac yn gwbl naturiol ar ddiwedd y gerdd.”
Dywedodd Ann Atkinson: “Mae’n cyd-fynd yn berffaith â thema’r ŵyl eleni. Mae gorwel rhyfel yn codi ei ben ac yna ar y diwedd, y gorwel olaf a'r daith olaf. Bydd y corau yn canu ac yn arwyddo repertoire amrywiol, yn y Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn adlewyrchu'r agweddau hyn ar fywyd.”
Yn y cyfamser, mae Pedair yn cynnwys y telynorion adnabyddus Gwenan Gibbard a Siân James ynghyd â’r canwyr-gyfansoddwyr o fri Meinir Gwilym a Gwyneth Glyn. Gyda’i gilydd byddant yn perfformio nifer o ganeuon gwerin ar thema’r cyngerdd, gan ddod â deunydd traddodiadol yn fyw gyda threfniannau newydd ar delynau, gitarau, piano ac acordion.
Mae’r digwyddiad hefyd yn chwarae rhan yn nathliadau pen-blwydd dau gôr meibion, y mae Ann yn gyfarwyddwr cerdd arnynt. Mae Côr Meibion Trelawnyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed eleni a ffurfiwyd y côr o Gorwen, Côr Meibion Bro Glyndwr, hanner can mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd Ann: "Mae'r ddau gôr wedi cynnal cyngherddau arbennig eleni i ddathlu eu penblwyddi ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n addas dod â'r ddau at ei gilydd i ganu yn y cyngerdd hwn. Y gobaith yw cael mwy na 100 o gantorion yn canu trefniant corawl hyfryd o gân eiconig Robat Arwyn, ‘Anfonaf Angel’.”
Bydd y côr o 30 o aelodau Dee Sign yn ymuno â’r ddau gôr yn y gadeirlan i arwyddo’r gân yn Iaith Arwyddion Prydain neu BSL. Dywedodd cyfarwyddwr y côr, Celia Chapman: "Mae Anfonaf Angel yn newydd i ni ac rydyn ni'n trefnu iddo gael ei gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain."
Bydd yr ŵyl ei hun yn edrych i orwelion newydd a bydd y cyngerdd clo ar nos Sadwrn, Medi 30 ar ffurf ffarwel i Ann sy’n camu i lawr ar ôl 20 mlynedd wrth y llyw. Bydd y gyngerdd ffarwel yn cynnwys cerddorfa breswyl yr ŵyl, NEW Sinfonia, Côr Cymunedol Lleisiau NEW a’r unawdwyr Lisa Dafydd a Dafydd Jones. Hefyd yn cymryd rhan bydd Ann Atkinson ei hun a’i gŵr, y bariton medrus, Kevin Sharp.
Mae’r ensemble lleisiol arobryn Tenebrae yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth y Dadeni gan gynnwys Byrd, Shepherd a Tallis, mewn cyngerdd sy’n argoeli i fod yn agoriad ysbrydoledig ar nos Gwener, Medi 15. Y noson ganlynol bydd y Drymwyr Mugenkyo Taiko yn dod â'u rhythmau dirdynnol, cydamseru siarp ac egnïol.
Ddydd Iau 21 Medi bydd y pedwarawd acwstig clodwiw Kabantu yn cyflwyno eu cerddoriaeth offerynnol a lleisiol eclectig sy’ wedi’i hysbrydoli gan y werin wrth ddathlu’r gofodau lle mae gwahanol ddiwylliannau yn cyfarfod. Noson amrywiol o gerddoriaeth feistrolgar, a gwirioneddol wreiddiol sy'n eich cludo o’r ceilidh Albanaidd aflafar i stryd marchnad Indiaidd ac yn ôl i arfordir garw Cymru.
Ar nos Sadwrn 23 Medi, bydd cerddorfa breswyl yr ŵyl NEW Sinfonia yn ymuno â’r pianydd Cymreig Teleri-Siân a’r feiolinydd Americanaidd Tai Murray, sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n “dechnegol ddi-fai … bywiog a phefriol”. Mae eu rhaglen yn cynnwys ‘The Four Seasons of Buenos Aires’ gan Piazzolla ac ‘An American in Paris’ a ‘Rhapsody in Blue’ gan Gershwin.
Ar ddydd Iau 28 Medi bydd y pianydd o Ganada Janina Fialkowska “un o Foneddesigion Mawreddog canu’r piano” yn perfformio datganiad o weithiau Schubert, Brahms a Chopin. Mae Janina wedi swyno cynulleidfaoedd a beirniaid ledled y byd ers dros 40 mlynedd.
Mae rhaglen y delynores Gymreig Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ní Bhriain ar nos Wener 29 Medi yn cynnwys casgliad cain o gyfansoddiadau newydd sy’n tynnu ysbrydoliaeth o wahanol genres a diwylliannau eu gwledydd cartref, gan fynd â gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon.
Yn ogystal, bydd rhaglen helaeth o digwyddiadau eraill, gan gynnwys cyngerdd chynhwysol a dementia gyfeillgar, cyngerdd ysgolion a chyngerdd babanod gyda cherddorion o Live Music Now Cymru. Bydd cyngerdd bore hefyd gyda’r gitarydd clasurol Jonathan Richards a dosbarthiadau meistr a gweithdai amrywiol.
Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl ar gael ar-lein yn https://nwimf.com/cy. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929 (Mercher - Gwener, 10 - 4) a dros y ffôn o Theatr Clwyd - 01352 344101 (Llun - Sadwrn, 10 - 6).