Mae Nantwen wedi cyhoeddi y bydd eu Gŵyl Cerddoriaeth Siambr flynyddol yn cynnwys perfformiad cyntaf o Bumawd Llinynnol newydd gan y Cyfansoddwr Cymreig o fri, John Metcalf.

Bydd y cyngerddau, a gynhelir yn y lleoliad diarffordd yng Ngogledd Sir Benfro ar 1 Gorffennaf 2023, hefyd yn cynnwys Pumawd Llinynnol Schubert a threfniadau o Völkslieder gan Brahms ar gyfer Pedwarawd Llinynnol gan y Soddgrydd Cymreig Daniel Davies.

Yn ogystal â Daniel, y cerddorion sy’n perfformio yn neuadd fach Nantwen yw’r Soddgrydd Unawd Aleksei Kiseliov o Gerddorfa Symffoni Radio Sweden, y feiolinydd Amanda Lake o Opera Cenedlaethol Cymru, y feiolinydd o Awstralia Katerina Nazarova, a’r chwaraewr Fiola o Sbaen, Patricia Reinoso. Dywedodd y sielydd Daniel Davies, a sefydlodd Nantwen yn 2015 gyda’i wraig Jemma: “Rwy’n falch iawn o allu croesawu chwaraewyr mor wych i Nantwen i berfformio gwaith newydd gan John Metcalf. Pan berfformiais ei ddarn Ynys Las ar gyfer sielo a phiano, cefais fy swyno ar unwaith. Mae ychwanegu Pumawd Llinynnol newydd i gyd-fynd â’r gweithiau presennol yn y genre yn ddatblygiad cyffrous.”

 

Bydd y 1af o Orffennaf hefyd yn cynnwys Pedwarawd Llinynnol “the Hunt” gan Haydn, Völkslieder Brahms, a 3 darn o “Last Leaf” gan Bedwarawd Llinynnol Denmarc. Bydd yr 2il o Orffennaf yn cynnwys Pedwarawd Llinynnol ‘Americanaidd’ Dvorák, 8 darn ar gyfer ffidil a sielo gan Gliére.

Crëwyd Nantwen allan o bâr o adeiladau fferm segur yng nghartref teulu Daniel ac mae wedi’i hamgylchynu gan erwau o ddolydd gwyllt.

Mae'r sensitifrwydd amgylcheddol hwn yn creu cefndir wych ar gyfer perfformiadau cerddoriaeth siambr ac yn caniatáu hyd at 80 o bobl.

I gael rhagor o wybodaeth am Gerddoriaeth yn Nantwen, ewch i www.nantwen.co.uk/music neu cysylltwch â nhw ar info@nantwen.co.uk neu 01239820768.