Llongyfarchiadau i Katie Bartels am ennill Gwobr Syr Ian Stoutzker fawreddog y Coleg, sydd eleni yn rhoi sylw i’r offerynwyr eithriadol sy’n astudio yma. 

 

Dyfernir Gwobr Syr Ian Stoutzker gwerth £10,000 yn flynyddol, yng ngeiriau Syr Ian ei hun, ‘i fyfyriwr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sydd â thalent a photensial eithriadol’. 

 

Sefydlwyd y wobr yn 2012 gan Syr Ian Stoutzker, a fu farw yn gynharach eleni. Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker, a roddwyd yn hael i’r Coleg gan Syr Ian er cof am ei fam. 

 

‘Gwobr Syr Ian Stoutzker yw’r fedal aur ym maes cerddoriaeth yn CBCDC ac mae myfyrwyr cerddoriaeth yn disgwyl yn eiddgar amdani ac yn neilltuo oriau yn eu paratoadau i gystadlu,’ meddai Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans. 

 

‘Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwobr fel hon, sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ariannu eu haddysg a phontio’r bwlch rhwng astudiaeth ar lefel uchel a phroffil proffesiynol. Mae naws trist i’r wobr eleni wrth i ni gofio Ian, ffrind annwyl ac angerddol i’r Coleg, yn harddwch cartrefol Neuadd Dora Stoutzker.’ 

 

Gyda Catherine Milledge yn cyfeilio, bu Katie yn cystadlu ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol, Luke Bartlett, Meg Davies a Rhys Herbert. Cyflwynodd bob un ohonynt ddatganiad 30 munud o gerddoriaeth o’u dewis i’r gynulleidfa. 

 

‘Mae’n anrhydedd enfawr i mi ennill Gwobr Stoutzker eleni, yn enwedig wrth i ni gofio’r person rhyfeddol Syr Ian Stoutzker,’ meddai Katie. 

 

‘Mae ei angerdd am gerddoriaeth a’r celfyddydau, a’i haelioni tuag at Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn helpu i barhau i’n dathlu a’n cefnogi ni fel cerddorion ifanc a’n hannog yn ein teithiau cerddorol. 

 

Rydw i mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydw i wedi ei chael yn CBCDC eleni, yn enwedig gan fy athrawon ffliwt a phenaethiaid adran. Maent wedi bod mor gefnogol ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy ganddynt yn fy mlwyddyn olaf o astudio ar gyfer gradd meistr y flwyddyn nesaf.  

 

Mae ennill y wobr hon yn gymaint o gymorth gan y byddaf yn gallu talu fy ffioedd y flwyddyn nesaf, ac efallai y gallaf hefyd brynu picolo!’  

 

Roedd panel y beirniaid eleni yn cynnwys Robert Ault (clarinét), Ben Davies (soddgrwth), Fiona Fulton (ffliwt), Xuefei Yang (gitâr), gyda Tom Redmond (Cyd-brifathro Ysgol Gerdd Chetham) yn cadeirio’r panel. 

 

‘Roedd hi’n anrhydedd enfawr bod yn rhan o’r panel ar gyfer gwobr Syr Ian Stoutzker eleni,’ meddai Tom Redmond. 

 

‘Dylid canmol y pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu perfformiadau a’u rhaglenni rhagorol. Roedd hi’n wych clywed cerddoriaeth mor amrywiol yn cael ei chwarae gyda chymaint o ddychymyg a gonestrwydd. Cydiodd perfformiad Katie Bartels ynom o’r cychwyn cyntaf gyda chyfathrebu cerddorol bywiog drwy gydol y rhaglen.’ 

 

 

Mae enillwyr blaenorol Gwobr Syr Ian Stoutzker yn cynnwys y bariton Edward Kim, y soprano Elena Zamudio, y tenor Rhodri Jones, a’r ffliwtydd Isabelle Harris. 

 

Nodiadau i olygyddion: 

 

Er Cof am Syr Ian Stoutzker CBE: 

1929-2024 

 

‘Roedd Syr Ian Stoutzker yn ddyn hynod,’ meddai Helena Gaunt, Prifathro CBCDC. ‘Roedd yn gerddor dawnus a gallai fod wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau ond yn hytrach, o ganlyniad i ddewis gweithio ym maes bancio masnachol, mynegodd ei gariad at gerddoriaeth trwy ddyngarwch hael a rolau llywodraethu ar gyfer sefydliadau cerddoriaeth a conservatoires yn y DU ac yn rhyngwladol. Trwy ei gyfeillgarwch agos â’r feiolinydd blaenllaw Yehudi Menuhin, daeth Ian yn angerddol am gynwysoldeb a mynediad at y celfyddydau, angerdd a arweiniodd at gyd-sefydlu Cerdd Byw Nawr – elusen sy’n galluogi cerddorion ifanc proffesiynol i berfformio i’r rheiny na fyddent fel arall yn gallu profi perfformiadau byw. 

 

Ac yntau wedi ei fagu yn Nhredegar, De Cymru, roedd gan Ian gariad at Gymru ac roedd yn trysori ei gefnogaeth i, a’i gysylltiad ag, Elusen Aloud, Band Tref Tredegar a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

 

Yma yn CBCDC mae dyngarwch Ian a’r effaith a gafodd hynny i’w weld yn syth ar ffurf neuadd gyngerdd hardd sy’n dwyn enw ei annwyl fam, Dora Stoutzker, athrawes piano a daniodd ei gariad at gerddoriaeth. Yn y Neuadd hon y mae llawer o’n chwaraewyr llinynnol wedi elwa gan arweiniad y feiolinydd o fri rhyngwladol Itzhak Rashkovsky; profiad hynod ysbrydoledig na fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Syr Ian. Yn fwyaf nodedig, bob blwyddyn ers ei hagor, mae Neuadd Dora Stoutzker, yn orlawn o fyfyrwyr cefnogol, athrawon, staff a chynulleidfa gyhoeddus, wedi bod yn gartref i Wobr Syr Ian Stoutzker, sef ‘medal aur’ y Coleg am gerddoriaeth, a ddyfernir i gerddorion a chantorion gorau CBCDC. 

 

Bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiolchgar am byth i Syr Ian am ei angerdd, ei deyrngarwch a’i gefnogaeth.’ 

 

Y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker 2024 

 

Katie Bartels, ffliwt gyda Catherine Milledge yn cyfeilio 

Luke Bartlett, gitâr (dim cyfeilydd) 

Meg Davies, clarinét gyda Catherine Milledge yn cyfeilio 

Rhys Herbert, soddgrwth gyda Rebeccah Selley yn cyfeilio