Gweminar 12–1pm; Sesiwn Holi ac Ateb 1–1:30pm
Fel rhan o’n rhaglen beilot tair blynedd o hyd, Resilient Theatres: Resilient Communities, bydd y weminar hon yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n bresennol gael cipolwg ar sut gall theatrau gasglu a defnyddio data i gael yr effaith fwyaf posibl.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed gan ddwy theatr wahanol iawn i’w gilydd am eu hethos a’u ffordd o fonitro a gwerthuso. Gan ganolbwyntio’n benodol ar eu hymagwedd at ddata, bydd pob siaradwr yn rhannu pam a sut mae data’n bwysig iddyn nhw; eu profiad o’i goladu o amrywiol lefydd neu ar brosiectau cymhleth; a’r gwahanol ffyrdd maen nhw’n ei reoli a’i rannu.
I gyflwyno’r pwnc yn fras, bydd yr ymgynghorydd gwerthuso, Catherine Bloodworth, yn amlinellu pam mae gwerthuso’n bwysig; yr hyn y dylai theatrau anelu at ei werthuso; a’i hawgrymiadau ar sut i wneud gwerthuso yn arferiad rheolaidd. Mae Catherine wedi gweithio’n helaeth gyda sefydliadau celfyddydol a threftadaeth a bydd hi’n rhannu ei safbwyntiau ar effaith casglu data meintiol ac ansoddol a thystiolaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau.
Y siaradwr cyntaf fydd Abbi Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfathrebu The Mercury yn ninas Colchester yn Essex. Bydd Abbi yn trafod data o adroddiad effaith economaidd a gomisiynwyd ar y cyd gan The Mercury a sefydliadau diwylliannol eraill yn y rhanbarth. Cafodd y data ei goladu gan sefydliadau partner, ac mae’n cynnwys data am gyflogaeth, caffael, cyflenwyr a chynulleidfa yn ogystal ag ymgynghoriadau â rhanddeiliaid. Bu canfyddiadau'r adroddiad o gymorth i theatr The Mercury ddatblygu a gwireddu ei phrosiect cyfalaf mawr ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu adroddiad newydd.
Y siaradwr olaf fydd yr Athro Vanessa Toulmin, cadeirydd Morecambe Winter Gardens Preservations Trust Ltd, sydd ar Gofrestr Theatrau mewn Perygl Ymddiriedolaeth y Theatrau. Bydd Vanessa yn siarad am werth a phwysigrwydd data crai, yn enwedig o’i safbwynt hi fel arweinydd mudiad rhanbarthol sy’n cael ei arwain yn bennaf gan wirfoddolwyr ac sy’n gweithio gyda llawer o bartneriaid a chyllidwyr cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg o’r rhan bwysig y mae data yn ei chwarae wrth helpu theatrau i ddeall effaith eu gwaith. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella arferion monitro a gwerthuso ei theatr trwy’r ffordd mae’n rheoli a defnyddio data.