Ers 2020, mae’r cwmni dawns o Gymru, Jones y Ddawns, wedi bod yn datblygu ei brosiect ar gyfer pobl F/fyddar a Thrwm eu Clyw dan yr enw Quiet Beats yn ne Cymru. Fe wnaethant gychwyn y prosiect ar ôl clywed am brofiadau pobl ifanc Fyddar yn cael eu digalonni gan ddosbarthiadau dawns prif-ffrwd a chydnabod yr angen am weithdai sy’n cael eu cynllunio gydag offer cyfathrebu penodol fel bod y rhai sydd wrth eu bodd yn dawnsio yn gallu gwneud hynny heb unrhyw gyfyngiadau.

Mae’r cwmni wedi bod yn datblygu ei weithdai gyda chefnogaeth dawnswyr, artistiaid ac ymgynghorwyr Byddar amlwg yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain, sydd wedi arwain at weld y grŵp yng Nghaerdydd yn ffurfio yn gwmni a wnaeth greu ffilm ddawns fer a fu’n teithio Cymru yn 2024.

“Rydym wedi gweld Dylan yn newid yn llwyr, cyn hyn fydden ni ddim wedi gwneud dim byd corfforol, mae Amber wedi gwirioneddol ei dynnu o’i le cyfforddus ac mae ei hyder wedi cynyddu’n aruthrol...mae wedi bod yn drawsnewidiol”, dywedodd rhiant un aelod o’r cwmni ifanc.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid lleol bydd Jones y Ddawns yn ehangu’r prosiect i ogledd Cymru yn gynnar yn 2025, gan greu cyfleoedd i bobl ifanc Fyddar yno gael y cyfle i ddawnsio hefyd.

Trwy gydol rhan gynnar 2025, byddant yn rhedeg nifer o sesiynau blasu, yn ogystal â rhedeg eu gweithdai cyson. Yn ne Cymru byddant yn cynnwys sesiynau diwrnod llawn arbennig dros wyliau hanner tymor yn Abertawe yn y ganolfan i’r Byddar ar 26 Chwefror, yn Theatr Glanyrafon Casnewydd ar 27 Chwefror ac yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 28 Chwefror. Byddant yn rhedeg mwy o weithdai yng ngogledd Cymru yn Wrecsam, Bae Colwyn ac yn ystod hanner tymor mis Mai a mwy yng Nghaerdydd hefyd (yr union ddyddiadau i gael eu cadarnhau).

Mae Jones y Ddawns yn herio’r ‘rheolau’ nad oes neb yn eu mynegi am bwy sy’n cael gwylio, mwynhau a phrofi dawns (gyfoes). Byddant yn gweithio’n gyson gyda dawnswyr proffesiynol B/byddar o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yn eu cynyrchiadau ac maent am ysbrydoli ac annog pobl ifanc o’r gymuned F/fyddar i roi cynnig arni. Bydd llawer o’r dawnswyr proffesiynol B/byddar hefyd yn gweithio gyda’r cwmni ifanc, yn rhannu eu storïau, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, gan ddysgu sgiliau dawns gwych iddyn nhw. Ymwelodd y dawnsiwr o wlad Groeg, Panos Paraschou ac Anna Seymour sydd, fe ellid dadlau, yn un o’r dawnswyr cyfoes Byddar gorau yn y byd heddiw!

Dywedodd Kama Roberts, cynhyrchydd Jones y Ddawns, “rydym yn gobeithio y gall y bobl ifanc yma ddod yn ddawnswyr proffesiynol y dyfodol... neu fe allant ddatblygu cariad gydol oes tuag at ddawnsio oherwydd llawenydd y peth. Fe allant herio eu cyfyngiadau eu hunain a dod yn fwy hyderus mewn agweddau eraill o fywyd. Bydd unrhyw un o’r canlyniadau hyn yn fuddugoliaeth fawr i ni yn Jones y Ddawns.”

“Rydym wedi bod yn gweithio’n glos gyda’n Swyddogion Dawns Amber ac Eli hefyd sydd, er eu bod yn clywed, ag ymwybyddiaeth o fyddardod yn ganolog i bopeth y maent yn ei wneud ac sy’n gweithio’n ddiflino i gael gwared ar rwystrau diangen sy’n atal pobl ifanc F/fyddar rhag ffynnu mewn dawns. Maen nhw’n athrawon a dawnswyr gwych eu hunain.” (Kama)

Os hoffech chi gael eich ychwanegu at y rhestr i gael gwybod rhagor yna anfonwch e-bost at Kama ar info_and_admin@jonesthedance.com a bydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau all fod gennych.

Canolfan y Byddar Abertawe 

Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Chwefror Amser: 11:00 am – 12:00 pm (Pob oed 7-16 oed) 

10:00 am – 2:00 pm (11-16 oed, archebwch ymlaen llaw)

Casnewydd, Theatr Glanyrafon, Stiwdio Ddawns 

Dyddiad: Dydd Iau, 27 Chwefror 

Amser: 1:00 am – 3:00 pm (Pob oed 7 - 16 oed) 

1:00 am – 5:00 pm (11-16 oed)

Caerdydd, Tŷ Dawns 

Dyddiad: Dydd Gwener, 28 Chwefror 

Amser: 11:00 am – 1:00 pm (Pob oed 7-16 oed) 

11:00 am – 3:00 pm (11-16 oed)