Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio yn eu cartref, y Tŷ Dawns, ym Mae Caerdydd y mis hwn.
Gall teuluoedd fwynhau'r perfformiad mewn amgylchedd hamddenol, gyda drws agored yn golygu eu bod yn gallu dod â lluniaeth, gwneud sŵn a chodi os oes angen, a heb ofn y tywyllwch a brofir yn aml mewn theatrau.
Bydd y rhai sy'n mynychu hefyd yn cael cyfle i ddysgu rhai symudiadau a gwneud propiau wedi'u hysbrydoli gan y sioe yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru cyn y perfformiad.
Mae'r sioe o'r enw 'Zoetrope' yn cynnwys llu o gymeriadau lliwgar gan gynnwys tsimpansïaid, madfallod a sgerbydau a fydd yn achosi i ddychymyg plant redeg yn wyllt.
Mae Diwrnod Hwyl i’r Teulu ar thema Zoetrope ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill yn rhad ac am ddim i’w fynychu gyda thocynnau wedi’u prynu ar gyfer y sioe. Bydd plant yn gallu gwneud eu Zoetrope eu hunain a chymryd rhan mewn gweithdy dawns, cyn mwynhau’r perfformiad gyda’i gilydd.
Bydd rhieni hefyd yn cael taflenni gweithgaredd hwyliog ac amrywiol am Zoetrope i'w gwneud a'u cwblhau gartref.
“Mae Zoetrope yn wledd deuluol berffaith,” meddai Maris Lyons, Cynhyrchydd Ymgysylltu CDCCymru. “Mae ein cynnig yn ymestyn y tu hwnt i’r sioe, gyda gweithgaredd am ddim i’r teulu. I deuluoedd sydd eisiau dawnsio, rydym yn cynnig sesiwn ddawns deuluol am ddim lle byddwch yn gallu dysgu rhai o symudiadau’r sioe. Mae'r awr hon o hwyl dawnsio ar gyfer pob oedran a lefel ffitrwydd. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfle i aelodau’r gynulleidfa roi cynnig ar wneud eu Zoetrope eu hunain hefyd, felly os ydych chi’n mwynhau celf a chrefft mae hwn yn gyfle gwych i wneud rhywbeth a mynd ag o adref!”
Bydd Zoetrope yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd rhwng 26 a 27 Ebrill. Mae tocynnau yn £6 yn unig i rai dan 26 oed a £12 i oedolion.
Mae gwybodaeth ynghylch y Swyddfa Archebu Tocynnau ar gael yn https://zoetrope.my.canva.site/
Cefnogir Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Zoetrope hefyd yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Colwinston, The Hodge Foundation ac Abderrahim Crickmay Charitable Settlement.