Ym mis Mawrth, mae Cymru Greadigol, Gŵyl Immersed a Phrifysgol De Cymru yn cyflwyno cyfres o weithdai am ddim a ddarperir gan arbenigwyr i gefnogi'r sector digwyddiadau byw yng Nghymru.

Mae’r gweithdai hyn wedi’u teilwra ar gyfer gweithwyr llawrydd, gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa, ac unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu am reoli digwyddiadau byw, gweithio gyda sain a goleuo. Mae cyrsiau ar gael ar gyfer y pynciau isod: 

  • Hanfodion Goleuo a Sain Byw
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol ar gyfer Digwyddiadau Byw
  • Cynhyrchu Cynaliadwy a Chreadigol
  • Delweddu Systemau 'Patching': Creft Rhedeg Llwyfan Mewn Gŵyl
  • Cyflwyniad i Bŵer Digwyddiadau Byw
  • Sut i Ymgorffori Cynaliadwyedd yn eich Gyrfa Artistig

Mae bwrsariaethau teithio ar gael i gyfranogwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae cinio wedi'i gynnwys, a'r gost i sicrhau eich lle yw £5 yn unig. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly archebwch eich lle YMA!

Mae’r gweithdai’n rhan o Ŵyl Immersed - gŵyl aml-gyfrwng wedi’i churadu gan fyfyrwyr diwydiannau creadigol Prifysgol De Cymru.