Bydd Gruff Rhys yn ymuno â Lleuwen Steffan a chwmni theatr Hijinx ar gyfer cyfres o sioeau arddangos o gelfyddydau a diwylliant Cymru yn Ffrainc fis nesa. Bydd y sioeau arbennig hyn yn nodi penllanw Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru.

Noddir y sioe arddangos gan British Council Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru-Ffrainc, sy'n werth £100K.

Mae'r gronfa'n rhan o Flwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru - rhaglen flwyddyn o hyd i ddathlu diwylliant, busnes a chwaraeon a chreu cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad.  

Fel rhan o'r gweithgareddau a noddir gan y Gronfa Ddiwylliannol, mae chwech o artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru wedi derbyn cymorth ariannol i gydweithio gyda gweithwyr creadigol yn Ffrainc i ddatblygu gwaith newydd mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol.

Bydd y cerddor o Gymru, Gruff Rhys, yn perfformio ei albwm newydd 'Sadness Sets Me Free' mewn cyngerdd untro arbennig yn Le Solaris ym Mharis ar y 5ed o Fawrth. Mae amryw o gerddorion o Gymru a Ffrainc wedi chwarae ar yr albwm a recordiwyd mewn stiwdios yn Marseille a Paris. Cafodd yr albwm ei gyd-gynhyrchu gan y peirianydd o Ffrainc, Maxime Kosinetz. Bydd rhai o'r cerddorion o Ffrainc sy'n chwarae ar yr albwm yn ymuno â Gruff ar gyfer y perfformiad.

Mae cwmni theatr blaengar Hijinx yn cynhyrchu gwaith gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn ogystal â hybu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth greu cynhyrchiadau nodedig. Mae prosiect diweddaraf y cwmni 'Bon Appetit' yn cynnwys elfennau o glownio a gwaith pypedau. Cafodd y cynhyrchiad ei ddatblygu ar y cyd gydag artistiaid niwroddargyfeiriol yng Nghymru a Compagnie de L’Oiseau Mouche yn Ffrainc. Bydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Lille yn Ffrainc ym mis Mawrth 2024.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cydweithio gyda Festival Interceltique de Lorient ar gynhyrchiad cerddoriaeth a ffilm dan arweiniad y cerddor, cyfansoddwr a chanwr o Gymru, Lleuwen Steffan, sy'n byw a gweithio yn Llydaw. Archif gerddoriaeth Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan oedd sbardun a man cychwyn y prosiect. Mae rhai o artistiaid a cherddorion amlycaf Cymru a Llydaw yn cydweithio ar y cynhyrchiad a fydd yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Lorient Interceltique ym mis Awst 2024. Wedi hynny, bydd yn mynd ar daith o gwmpas theatrau yng Nghymru a Llydaw yn 2025. Rhwng Chwefror - Ebrill 2024, bydd Lleuwen Steffan yn mynd ar daith unigol o gapeli yng Nghymru a Llydaw gyda 'Emynau Coll y Werin' - perfformiad o ganeuon gwerin emynol o'r cynhyrchiad.

Mae Operasonic wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghasnewydd ynghyd â gweithwyr proffesiynol ifanc o'r byd cerddorol yng Nghymru a Ffrainc i gynhyrchu 'The Game' - ffilm fer sy'n edrych ar y ffordd mae emosiynau'n cael eu cyffroi wrth chwarae a gwylio rygbi. Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn amrywiaeth o leoliadau awyr agored mewn trefi. Mae cwmni Dirty Protest Theatre wedi dod â dramodwyr newydd o gefn gwlad Cymru a Ffrainc at ei gilydd i archwilio ffyrdd newydd o ysgrifennu ar gyfer y theatr a chreu gweithiau theatraidd. Bydd Mathilde Lopez, cyfarwyddwr cwmni theatr August 012 yn cydweithio â'r cyfansoddwr a'r canwr Katell Keineg i greu perfformiad yn archwilio hunaniaeth Katell fel Cymraes a Llydawes.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y Gronfa Ddiwylliannol, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'r sioe arddangos drawiadol yma'n nodi penllanw Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, sydd wedi cryfhau cyfeillgarwch sy'n ganrifoedd oed rhwng ein dwy wlad, gan ein clymu'n agosach ym meysydd diwylliant, chwaraeon a busnes.

“Drwy nawdd y Gronfa Ddiwylliannol, mae gweithwyr creadigol o Gymru wedi gallu cydweithio gyda'n ffrindiau yn Ffrainc, gweld eu celfyddyd yn blodeuo, a rhannu eu talentau anhygoel ar lwyfan rhyngwladol. Bues i'n ddigon ffodus i fwynhau perfformiadau nodedig Sage Todz ac Adwaith yn Nantes yr haf diwethaf; ac alla i ddim aros i weld beth sydd gan Gruff Rhys, Hijinx a Lleuwen a'r holl artistiaid gwych eraill ar ein cyfer fis nesaf. Mae'n arlwy o berfformwyr disglair y gallwn ymfalchio eu bod yn dod o Gymru."

Wrth sôn am effaith y gronfa, dywedodd Sarah Horner, Prif Weithredwr Hijinx:

Yn dilyn cyfnewid artistig a sefydliadol gwych yn 22/23, rydyn ni wrth ein bodd i allu mynd â'n cydweithrediad â Compagnie L'Oiseau Mouche i'r lefel nesaf diolch i gronfa Cymru yn Ffrainc. Mae'r gronfa wedi ein galluogi i greu gwaith theatr cynhwysol newydd a ddatblygwyd gan, ac ar y cyd ag artistiaid ag anabledd dysgu yn Lille a Chaerdydd. Mae gwerth diwylliannol a chreadigol aruthrol i weithio gyda phartneriaid y tu allan i Gymru, ac allwn ni ddim aros i rannu ffrwyth llafur y fenter gydweithredol yma gyda chynulleidfaoedd yn Lille ym mis Mawrth."

Dywedodd y cyfarwyddwr a'r canwr opera Harvey Evans sydd wedi arwain prosiect Operasonic:

"Rydyn ni'n credu yng ngallu celfyddyd a diwylliant i adeiladu cysylltiadau rhwng cymunedau. Mae 'The Game' yn fwy na ffilm; mae'n ddathliad o ddiwylliant Cymreig. Rydyn ni eisiau rhannu ein hangerdd am rygbi, cerddoriaeth a chymuned gyda phobl yn Ffrainc; a thrwy hynny, meithrin cysylltiad dyfnach rhwng ein diwylliannau.”

Mae rhaglen Cymru yn Ffrainc wedi hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol o gwmpas digwyddiadau byd-eang fel Cwpan Rygbi'r Byd yn Hydref 2023. Yn ogystal, mae wedi pontio gyda rhaglen 'Together We Imagine' - sy'n rhan o weithgareddau rhaglen 'Y D.U. / Ffrainc - Sbotolau ar Ddiwylliant 2024' dan arweiniad British Council Ffrainc. Mae hyn wedi arwain at gefnogi mentrau cydweithio newydd yn y cyfnod yn arwain at y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ym Mharis yn 2024.

Cyn hyn, mae British Council Cymru wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau celfyddydol rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a Ffrainc. Yn fwyaf diweddar, rhoddwyd cefnogaeth i'r fenter gydweithredol rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Orchestre National de Bretagne mewn cyfres o gyngherddau ar y cyd yn 2022 a 2023. Bydd y ddwy gerddorfa yn perfformio cyngherddau arbennig yn Rennes yn Llydaw ar y 4ydd a'r 6ed o Ebrill wrth i Flwyddyn Cymru yn Ffrainc bontio â rhaglen 'Y D.U. / Ffrainc - Sbotolau ar Ddiwylliant 2024'.

Wrth sôn am waddol y gronfa, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

Mae Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc wedi creu cysylltiadau newydd, cryfhau cysylltiadau diwylliannol oedd yn bodoli'n barod, a chefnogi prosiectau yng Nghymru a Ffrainc gan roi cyfle i artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn y ddwy wlad i gydweithio'n greadigol a meithrin cysylltiadau parhaol.

Mae'n fendigedig i weld y gwaith creadigol gwych sydd wedi deillio o'r mentrau cydweithio hyn. Mae'r chwe phrosiect yn unigryw a byddant yn helpu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau hanfodol rhwng ein dwy wlad, gan roi cefnogaeth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol i archwilio ffyrdd o weithio'n rhyngwladol, datblygu eu rhwydweithiau, magu safbwyntiau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”

Ychwanegodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Blwyddyn Cymru yn Ffrainc wedi bod yn gyfle hynod i amlygu diwylliant arbennig Cymru a chryfhau proffil rhyngwladol Cymru. Rydyn ni'n falch ein bod wedi cyd-fuddsoddi yn y Gronfa Ddiwylliannol gyda British Council Cymru a Llywodraeth Cymru drwy ein hasiantaeth, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae'r gronfa yma wedi galluogi artistiaid i ddatblygu ei gwaith yn Ffrainc mewn modd cynaliadwy a meithrin, gobeithio, perthnasoedd hir-dymor.

Fel rhan o'r digwyddiadau i nodi diweddglo rhaglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, bydd hunanbortread nodedig Van Gogh, 'Portread o'r Artist' (1887) yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd o fis Mawrth ymlaen trwy drefniant cyfnewid gyda Musée D'Orsay, Paris.

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r hunanbortread gan Van Gogh ddod i Gymru. Yn gyfnewid am hynny, bydd un o ddarluniau mwyaf poblogaidd Amgueddfa Cymru, La Parisienne gan Renoir ('Y Fenyw Las') yn teithio o Gaerdydd ar draws y Sianel.