Mae Music Theatre Wales yn rhyddhau dau Opera Fer Digidol newydd a gomisiynwyd fel rhan o'n rhaglen New Directions:

GRIEF GAN FRANCESCA AMEWUDAH-RIVERS A CONNOR ALLEN

&

INTERBEING GAN SIMMY SINGH AC ASHA

Ar gael i'w wylio am ddim drwy ein gwefan o'r 27ain o Fawrth am 7pm

Mae New Directions yn brosiect sy’n ymwneud ag ail-ddychmygu opera trwy wahodd artistiaid rhagorol sy’n newydd i’r byd opera i gydweithio ar weithiau operatig newydd. Mae'r darnau digidol byr hyn yn dod â'r holl elfennau sy'n gwneud opera mor bwerus at ei gilydd – arc gerddorol barhaus sy'n cyfleu'r stori fewnol; neges ddynol effeithiol; delwedd; perfformiad; a'r llais operatig. Mae darnau New Directions yn gweithredu i anadlu bywyd newydd i mewn i greu opera, ac i herio hunaniaeth opera fel ffurf hanesyddol a sefydledig.

Eleni, gwahoddwyd bedwar artist i gydweithio mewn opera am y tro cyntaf. Nid oedd yr un ohonynt wedi cwrdd o'r blaen, ond roedd pawb yn gyffrous gan y potensial o'r ffurf gelfyddydol aml-ddisgyblaethol hon, ac o greu rhywbeth lle mae cerddoriaeth, naratif a delwedd yn gweithio gyda’i gilydd. Mae'r ddau bâr – Francesca Amewudah-Rivers a Connor Allen, a Simmy Singh ac ASHA – wedi cymryd y ffurf opera fer hon i lefelau newydd ac rydym yn falch o rannu GRIEF ac interbeing gyda chi.

Fe'ch gwahoddir i wylio ar unrhyw ddyfais ddigidol, am ddim. Os gallwch ddefnyddio clustffonau neu siaradwyr o ansawdd da, y gorau oll, a pho fwyaf y sgrin, y mwyaf ymdrochol bydd y darnau.

Os ydych chi'n hoffi'r darnau, plis rhannwch nhw gydag eraill. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i ail-ddychmygu opera gyda ni, ac ymuno â ni ar ein taith i ddod o hyd i le newydd a llawer mwy amrywiol ar gyfer opera yn y byd heddiw.