Dydd Iau 12 Medi, Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Perfformiad cyntaf: 17:30. Ail berfformiad: 20:00

Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr

Sinfonia NEW, Lleisiau NEW ac Unawdwyr

Premier byd o waith newydd gan y cyfansoddwr o Gymru, Jon Guy a’r bardd o Gymru, Grahame Davies yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Mwyngloddio Gresffordd (cyd-gomisiwn GGRGC).

Ar ddydd Sul 22 Medi 2024, bydd 90 mlynedd wedi bod ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae’r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd, mi fydd cof byw o’r trychineb yn cael ei ymrwymo i hanes. Mae themâu o golled, anghyfiawnder cymdeithasol, a diffyg grym, yn ogystal â buddugoliaethau dros adfyd a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol i gyd yn ganolog i stori Gresffordd.

Rydyn ni’n dod â’r stori emosiynol hon yn fyw, mewn ffordd sy’n ysgogi sgwrs, yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn helpu cynulleidfaoedd (o bob cornel o’n cymuned) i gysylltu stori Gresffordd â’u profiadau cyfoes eu hunain.

Tocynnau: £15 / £12 / £10 (Mae tocynnau i blant yn hanner pris)

Archebu ar lein - nwimf.com

Theatr Clwyd dros y ffôn ar gyfer e-docynnau - 01352 344101 (Llun - Sad, 10 - 6)

Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929 (Mer - Gwe, 10 - 4)

Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

12 – 21 Medi 2024

Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Thema: Trawsnewidiadau