Gofalwr / Glanhawr CTS (Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd)
Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wenud cais.
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn awyddus i benodi Gofalwr / Glanhawr ar gyfer ein safle Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd ar Stryd Tyndall, Caerdydd, ac ar ein safle Eastmoors yng Nghaerdydd. Prif ddiben y swydd fydd cadw’r adeilad a’r safle mewn cyflwr glân a thaclus ac ymgymryd ag unrhyw waith cynnal a chadw cyffredinol yn ôl y gofyn. Byddwch yn gyfrifol am ofalu am ein cyfleusterau, ymgymryd â dyletswyddau glanhau a chynnal a chadw, a chloi / agor yn ôl y gofyn.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
Yn y rôl hon, bydd angen cadw'r adeilad yn lân ac yn drefnus, ynghyd â chyflawni dyletswyddau cynnal a chadw cyffredinol. Mae'r cyfrifoldebau’n cynnwys glanhau ardaloedd penodol, rheoli stoc cynhyrchion glanhau, adrodd i'r Gweinyddwr CTS, cynnal arolygon rheolaidd, ac ymgymryd â thasgau trwm. Mae angen rhoi sylw manwl iawn i ardaloedd fel mynedfeydd, swyddfeydd, ceginau a thiroedd, drwy ymgymryd â thasgau fel hwfro, diheintio a thacluso.
Mae ardaloedd o gyfrifoldeb allweddol yn cynnwys adrannau amrywiol o’r cyfleuster, gyda phwyslais ar ddiogelwch, gwaith cynnal a chadw wythnosol yn Eastmoors, a sicrhau cyflenwad cyson o gynhyrchion glanhau. Mae’n hanfodol eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
Dylech fod gennych brofiad mewn rolau glanhau a chynnal a chadw, ac ymgymryd â gweithgareddau cynnal a chadw a chynnal arolygon rheolaidd. Bydd gennych brofiad o reoli cyflenwadau cynhyrchion glanhau, sgiliau trefnu da gyda sylw i fanylder, a sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Byddwch yn gallu ymgymryd â thasgau glanhau trwm a phrosiectau arbennig, mynd ati’n rhagweithiol i wneud addasiadau ac atgyweiriadau bach, cydweithio â chydweithwyr yn effeithiol, blaenoriaethu rheoliadau iechyd a diogelwch, ac arddangos sgiliau rheoli amser da. Yn ogystal â hynny, byddwch yn cyflawni cyfrifoldebau dal allweddi yn ddibynadwy.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol £21,131.76 y flwyddyn, cynyddu i £23,200.32 y flwyddyn ym mis Ebrill 2024.
Gwyliau Blynyddol Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy. Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.
Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys diwrnodau hamdden allan, pryniannau i'r cartref, moduro a theithio.
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch ag heledd.davies@wno.org.uk