Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn cyflwyno Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr, sy'n cael ei harddangos rhwng 18 Mai 2024 a 12 Ionawr 2025.
Mae’r arddangosfa wedi’i rhaglennu i gyd-fynd â Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Gŵyr 2024, a gynhelir ym mis Gorffennaf. Mae dathlu Gŵyr fel ysbrydoliaeth i artistiaid yn ychwanegu diddordeb lleol arbennig at ŵyl eleni.
Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae ei arfordir creigiog dramatig, ei draethau, ei fryniau a'i ddyffrynnoedd yn darparu cyfleoedd hamdden awyr agored a mwynhad i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae twristiaid wedi rhoi llawer o gyhoeddusrwydd i'w brif atyniadau, yn enwedig Bae y Tri Chlogwyn a Rhosili. Fodd bynnag, mae artistiaid lleol ac artistiaid gwadd wedi ymateb i benrhyn Gŵyr a’i olygfeydd gan ddefnyddio dulliau mwy personol. Mae'r rhain yn amrywio o themâu diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Gŵyr gan Ceri Richards ac Archie Rhys Griffiths, i olygfeydd o draethau yn yr haf a brasluniau dyfrlliw o dirluniau gan Will Evans a gweledigaethau lliwgar a llawn mynegiant Glenys Cour.
O Cedric Morris, a fu'n ymweld â Gogledd Gŵyr yn y 1930au, gan baentio ei fryniau a’i ffermydd gan edrych ar draws y dŵr ar simneiau diwydiannol Llwchwr, i'r arlunydd alltud o'r Weriniaeth Tsiec, Ernest Neuschul, a oedd yn cael ei syfrdanu gan waith ymdrechgar casglwyr cocos Pen-clawdd, bydd yr arddangosfa'n archwilio tir amaeth, rhosydd a thiroedd comin y penrhyn, gorsydd hardd Moryd Llwchwr, a’r clogwyni a’r cildraethau ysblennydd sy’n edrych dros Fôr Hafren.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o gasgliad parhaol y Glynn Vivian ac mae celfweithiau dethol yn yr arddangosfa hon ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, Celf ar y Cyd.
Meddai Kristine Brander Dunthorne, curadur yr arddangosfa, "Mae Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Gŵyr yn cael ei chynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, gan ddod â 'cherddorion o fri rhyngwladol i chwarae yn awyrgylch ac acwsteg fendigedig eglwysi hynafol Gŵyr'. Mae mathau eraill o berfformiadau, sgyrsiau a darlleniadau barddoniaeth hefyd yn rhan o’r rhaglen ac yn 2024 tro’r celfyddydau gweledol yw hi. Rwy'n falch iawn bod Oriel Gelf Glynn Vivian wedi rhoi'r cyfle i mi guradu Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr, detholiad o waith o'r casgliad parhaol sy'n dathlu Gŵyr fel rhywle sy'n ysbrydoli artistiaid.
"Mae'r arddangosfa'n amrywio o ddarlun bychan o Gastell Ystumllwynarth gan Thomas Rowlandson i olygfeydd o benrhyn Gŵyr gan Lucien Pissarro, Cedric Morris a Kyffin Williams, ac mae'n cynnwys tirweddau lliwgar, haniaethol Glenys Cour, yr artist o'r Mwmbwls ac un o gefnogwyr hirsefydlog Gŵyl Gŵyr, yr ydym yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed eleni. Yn ystod yr ŵyl ym mis Gorffennaf, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu mynd ar daith o amgylch Stiwdios Agored Gŵyr, a gweld gwaith ugain o artistiaid cyfoes sy’n gweithio ym mhenrhyn Gŵyr. Bydd taflen sy’n cynnwys yr oriau agor a chyfeiriadau ar gael o’r Oriel.”