Mae oriel gelf Glynn Vivian Abertawe'n cyflwyno The Russian Doll gan Kristel Trow, sy’n cael ei harddangos rhwng 23 Mawrth a 19 Mai, 2024.  

The Russian Doll yw gwaith mwyaf personol Kristel hyd yma, cyfres o bortreadau  ffotograffig du a gwyn newydd o fenywod sydd wedi profi pob math o adfyd yn eu bywydau. 

Mae'r gweithiau a ysbrydolwyd gan ffotograffwyr adeg y rhyfel a arferai gario eu hystafelloedd tywyll cludadwy eu hunain, wedi'u datblygu mewn camera a ddyluniwyd yn arbennig, sy'n eistedd ym mola Doli Rwsiaidd. Cafodd Kristel Ddoli Rwsiaidd pan oedd yn blentyn, gwrthrych adnabyddadwy a chofrodd boblogaidd, ac fe'i cadwodd nes iddi symud i loches i ferched ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn newidiodd ei barn am y gwrthrych - daeth yn 'symbol o fenyweidd-dra a ffrwythlondeb, yn garicatur o sut mae menywod yn cael eu gweld a'u trin o bryd i’w gilydd; fel addurn personol y gellir ei godi a'i roi i lawr.'  

Mae Kristel wedi cydweithio â menywod ar gyfer y gyfres hon o bortreadau sy'n cyfleu eu straeon personol, y mae llawer ohonynt yn ymwneud â thrais, gan gynnwys trais ddomestig, gwladwriaeth ac iechyd. Mae'r gosodiad yn mynd â chi ar daith fewnol o drawma i adferiad ac yn tynnu sylw at brofiadau a rennir drwy leisiau'r menywod hyn. Mae Kristel wedi bod yn cydweithio'n agos â menywod ledled y wlad, yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd yn Rhydychen, Dartmoor a'r Prosiect Eden, Cernyw. Mae pob lle wedi'i ddewis yn ofalus gyda phob cydweithredwr, fel lle sy'n golygu rhywbeth i bob un o'r menywod hyn.  

Mae testunau wedi'u hysgrifennu â llaw a gyflwynir ochr yn ochr â'r delweddau'n ychwanegu haenau o naratif, emosiwn, a myfyrio gyda dyfyniadau a gymerwyd yn uniongyrchol gan gyfranogwyr y prosiect. Mae'r awdur a'r gwneuthurwr ffilmiau arobryn, Will Millard, hefyd wedi dogfennu taith Kristel Trow o greu'r gwaith, a bydd y ffilm newydd hon hefyd yn cael ei harddangos.   

Dywedodd Kristel Trow, artist:  

"Mae gen i stori sy'n ddilys ac rwyf wedi bod ar daith y bydd llawer o bobl eraill yn ei dilyn os ydyn nhw'n ddigon parod i ddal ati. Efallai mai'r peth mwyaf dewr rwyf wedi'i wneud yn ystod fy nghyfnodau tywyllaf yw galw fy hun yn artist beth bynnag." 

Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian,  

"Mae hwn yn bwnc mor bwysig ac mae'n hanfodol bod celf yn archwilio'r straeon hyn, mae gwaith Kristel yn ymgysylltu'n sensitif â'r pwnc drwy rymuso ei chydweithredwyr i greu naratif newydd."