Mae oriel gelf Glynn Vivian yn Abertawe ac Artes Mundi yn cyflwyno gosodiad newydd Aurora Trinity Collective sef Ncheta, cyd-gofio diwylliannol a phersonol, sy'n cael ei arddangos o 20 Hydref, 2023 i 21 Ionawr, 2024. 

Mae Ncheta yn archwilio themâu cofio, iaith a phwysigrwydd personol a diwylliannol tecstilau. Mae'r gwaith yn un o ganlyniadau prosiect dwy flynedd ar y cyd ag Artes Mundi, Aurora Trinity Collective a'r Trinity Centre ac fe'i cyd-gynhyrchir gan Ogechi Dimeke a Helen Clifford. Gwnaed y prosiect yn bosib drwy gymorth gan y Loteri Genedlaethol/ 'Cysylltu a Ffynnu' Cyngor Celfyddydau Cymru 

Mae Aurora Trinity Collective  yn cynnal sesiynau creadigol wythnosol yng Nghaerdydd sy'n lle diogel a gynhelir i fenywod, gan gynnwys menywod traws, pobl anneuaidd a phobl ryngryw. Ochr yn ochr â hyn, mae ganddynt arfer cydweithredol y maent yn creu eu gwaith eu hunain drwyddo. Mae llawer o artistiaid yn y grŵp wedi bod yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, ac o ganlyniad mae eu gwaith yn adlewyrchu ymgysylltiad cyfoethog a gweithredol â chreadigrwydd diwylliannol. Mae gwaith y grŵp yn aml yn ystyried naratifau, traddodiadau a gwybodaeth bersonol. 

Mae Ncheta yn ymgorffori tecstilau, ffotograffiaeth a sain amlsianel, mae ei natur amlsynhwyraidd yn adlewyrchu'r ffordd y mae aelodau'r grŵp yn gweithio gyda'i gilydd; er nad yw pawb yn rhannu'r un iaith, maent yn creu lleoedd ar gyfer ei gilydd, gan ddod o hyd i rythmau gwneud gyda'i gilydd. 

Mae gwaith tecstilau 50 metr yn cael ei arddangos gyda sain amlsianel, a ddatblygwyd ar y cyd â Nasia Sarwar Skuse a Lauren Clifford-Keane,  gyda lleisiau aelodau'r grŵp. Ochr yn ochr â hyn mae cyfres o ffotograffau a dynnwyd ar draeth Penarth sy'n dogfennu gweithrediadau perfformiadol a ddatblygwyd gydag Amak Mahmoodian ac a goreograffwyd ar y cyd â June Campbell Davies. 

Yn ystod eu hamser ar y traeth, defnyddiodd y grŵp y gwaith ffabrig i ddiffinio lle ac archwilio cysylltiadau eu cyrff â'r dirwedd, gyda'r darn tecstilau mawr wedi'i lifo â llaw mewn lliwiau pinc, melyn ac oren, a'i ddefnyddio yn y cyd-destun hwn fel marciwr neu faner dieiriau.