Mae’r actores deledu a llwyfan adnabyddus Gillian Elisa wedi ymuno â chast Branwen: Dadeni, mae’r cyd-gynhyrchwyr Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen wedi cyhoeddi, wrth i ymarferion gychwyn yng Nghaerdydd ar gyfer y sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd.

Bydd yr ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen, o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi, yn mynd ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd. Mae tocynnau ychwanegol wedi’u rhyddhau yng Nghaerdydd oherwydd galw mawr, tra bod perfformiadau wedi gwerthu allan yn barod yn Aberystwyth a Bangor.

Bydd Gillian Elisa yn chwarae rôl Ena, ffigwr sy’n cynghori Matholwch, Brenin Iwerddon. Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin a’i magu yn Llanbedr Pont Steffan, a chaiff ei hadnabod fwyaf am ei rolau yn Pobol y Cwm a Hidden.

Cyn ymuno â’r cast heddiw cyn ymarferion cyntaf y sioe, meddai: “Ar ôl chwarae rôl Branwen ym Melltith ar y Nyth, yr opera roc Gymraeg gyntaf ar y teledu, rwy’n teimlo ‘mod i’n cau’r cylch wrth ymuno â chynhyrchiad cenhedlaeth newydd yn seiliedig ar straeon y Mabinogion.

“Mewn bron i 50 mlynedd ar lwyfan a sgrîn, dyma fydd fy nghyfle cyntaf hefyd i berfformio yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru hefyd. Dydw i methu aros!”

Mae Octet o gantorion, a fydd yn rhan o waead gerddorol y sioe, hefyd wedi’i datgelu. Aelodau’r Octet fydd Lisa Angharad, Huw Euron, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion ac Adam Vaughan. Mae dwy actor ifanc o Gaerdydd hefyd wedi’u castio i rannu rôl sylweddol fel Gwern/Child. Bydd Mali Grooms a Tegwen Velios yn perfformio yn y tair lleoliad, ill dwy’n perfformio ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf.

Maent yn ymuno â chast dalentog sydd wedi’i arwain gan y cerddor a pherfformiwr arobryn Mared Williams, sy’n chwarae’r brif rôl. Caitlin Drake (Miss Littlewood, RSC & Cunard; Pavilion, Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Efnisien, chwaer Branwen, tra bydd Rithvik Andugula o Gaerdydd (debut broffesiynol) yn chwarae Matholwch – gan loywi ei Gymraeg ar ôl peidio ei ddefnyddio ers bod yn yr ysgol. Tomos Eames (BBC Shakespeare and Hathaway Private Investigators; S4C Gwaith/Cartref) fydd yn chwarae Bendigeidfran – brawd Branwen a Brenin Cedyrn – tra bydd Ioan Hefin (Netflix Apostle; BBC Steeltown Murders) yn chwarae Picell – presenoldeb dirgel newydd yn y stori.

Dywedodd Mared Williams: "Rwy'n edrych ymlaen ac yn nerfus i fod yn rhoi fy sbin fy hun ar Branwen a dechrau ystyried cymeriad Cymreig mor eiconig a chymhleth. Mae cael prosiect mor fawr wedi'i wneud yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rwy'n angerddol iawn amdano ac mae'n golygu llawer i fod yn rhan o'r sioe hon."

Mae Branwen: Dadeni wedi’i ysgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Caiff ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen Gethin Evans, gyda’r tîm creadigol sydd eisoes wedi’i gyhoeddi yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele, y dylunydd goleuo Bretta Gerecke, y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts, a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams.

Bydd Branwen: Dadeni yn agor yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru (8–11 Tachwedd 2023), yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (15–17 Tachwedd 2023) ac yn gorffen yng Nghanolfan Pontio, Bangor (22–25 Tachwedd 2023).

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid. Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando. 

Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.

Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn? 

Branwen: Dadeni yw’r diweddaraf mewn rhediad o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru sy’n meithrin awduron a thalent greadigol yng Nghymru ac o Gymru. Mae eu cynyrchiadau llwyddiannus yn cynnwys sioe arobryn Jennifer Lunn, Es & Flo (2023); The Boy with Two Hearts (2021) gan Hamed Amiri, a drosglwyddodd yn ddiweddar i’r National Theatre yn Llundain; The Making of a Monster (2022) gan Connor Allen, Anthem (2022) gan Llinos Mai a The Beauty Parade (2020) gan Kaite O’Reilly.

Mae gwaith diweddar Frân Wen yn cynnwys Popeth ar y Ddaear, cyd-gynhyrchiad ar safle penodol gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a’r cynhyrchiad theatrig gyntaf i’w lwyfannu ym Maes B; teithiau cenedlaethol y ddramâu Gymraeg am dyfu i fyny, Croendena ac Imrie, a ddangosodd yr awduron ifanc gorau yng Nghymru; Ynys Alys (2022) a oedd yn dilyn stori merch ifanc wrth iddi chwilio am ei hannibyniaeth; Galwad (2022), stori a adroddwyd mewn amser go iawn dros saith diwrnod ar-lein, ar deledu ac yn fyw o Gymru; a Faust & Greta (2021), cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru a oedd yn brofiad theatraidd digidol wedi’i ysbrydoli gan gyfieithiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe.