Mae Theatr Iolo, y cwmni theatr i blant yng Nghymru, wedi comisiynu’r dramodydd fel rhan o Playhouse, prosiect y DU gyfan sy’n cynnig dramâu eofn a pherthnasol i ysgolion eu perfformio yn eu theatr broffesiynol leol.
Fe ysgrifennodd Gary ei ddrama newydd sbon, Lia a’r Pelen Elefantsnot Enfawr (Lia and the Elephantsnot Ball), i gast o drideg o blant 9-11 oed, ac mae’n seiliedig ar King Lear gan Shakespeare. Mae’r ddrama, sy’n cynnwys pelen enfawr o ‘elephantsnot’, a grëwyd o ddarnau bychain o blu-tac, yn cymryd golwg ar gyfeillgarwch grŵp o blant ysgol. Datblygwyd Lia a’r Pelen Elefantsnot Enfawr yn y Gymraeg, ochr yn ochr â phlant o Ysgol Bro Teyrnon yng Nghasnewydd, a fydd yn perfformio’r ddrama yng Nglan yr Afon ym mis Gorffennaf eleni. Fe fydd y ddrama hefyd yn cael ei throsi i Saesneg, gan roi cyfle i ysgolion ledled y DU berfformio gwaith Gary Owen.
“Mae Playhouse yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc berfformio dramâu gan ddramodwyr gorau’r DU. Rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â Gary i gomisiynu Lia a’r Pelen Elefantsnot Enfawr ar gyfer Playhouse 2024. Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn comisiynu dramâu newydd yn y Gymraeg, ac mae rhoi cyfle i blant berfformio dramâu perthnasol a grëwyd gan ddramodwyr fel Gary yn brofiad anhygoel iddynt.” Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo
Cynhelir Playhouse Cymru bob blwyddyn ar y cyd â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd, gan gydweithio ag ysgolion yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae athrawon yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael dewis o bedair drama, gydag o leiaf un o’r rhain yn ddrama Gymraeg ei hiaith. Mae Playhouse hefyd yn cefnogi ac yn mentora athrawon er mwyn eu helpu nhw i ddod yn gyfarwyddwyr theatr gwell, yn ogystal â rhoi awyrgylch gefnogol i bawb sy’n rhan o’r prosiect.
Mae Playhouse Cymru yn rhan o gydweithrediad ehangach yn y DU rhwng Theatre Royal Plymouth, York Theatre Royal, Bristol Old Vic a Theatr Iolo. Mae’r sefydliadau hyn yn cydweithio bob blwyddyn i gomisiynu dramodwyr proffesiynol i ysgrifennu dramâu byrion sydd wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer cast o bobl ifanc. Ymhlith y dramodwyr mae Julia Donaldson, Mike Kenny, David Wood, Philip Ridley ac Alun Saunders.
Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn Playhouse Cymru 2024 yn perfformio yng Nglan yr Afon, 8 a 9 Gorffennaf am 7pm. Mae tocynnau ar gael i’w prynu gan newportlive.co.uk/cy/ neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01633 656757.
Gall ysgolion yn Ne Ddwyrain Cymru sydd am gymryd rhan yn Playhouse Cymru 2025
e-bostio hello@theatriolo.com neu ymweld â theatriolo.com/playhouse am ragor o wybodaeth.