Nos Iau 14 Medi - Nos Sadwrn 16 Medi

7.30yh

Tocynnau: £10/ £8 consesiynau

Yn THE REVENGE OF POPPERFACE, mae hunan-gysgod neu ego arall yr artist Gareth Chambers yn gwahodd cynulleidfaoedd i wylio mytholegau personol sy'n cael eu crefftio mewn amser go iawn, drwy ddawns, crefft ymladd cymysg, a bocsio.

Mae Popperface yn atgyfodi, gan gofleidio eu henw wrth ymgorffori’r gor-ddefnydd o amyl nitrad (poppers) â gwefus las ac yn chwyddedig. Ar gyfer y perfformiad 50 munud yma, mae’r cyfriniol a’r operatig yn curo gyda’i gilydd, gan weithio tuag at grescendo tanddaearol, wedi’i ymdrochi yng nghân estynedig yr arloeswr disgo o Ffrainc (ac awen Salvador Dali), Amanda Lear.

Archwiliad arbrofol o’r gwrywaidd gan ddefnyddio gwaith ymchwil a datblygiad a wnaed yn Hull, Nottingham ac yn ystod y cyfnod clo, wedi’i grisialu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, a’i gyflwyno gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Roedd Gareth yn gyfeillach cyfarwyddwr am Opera Cenedlaethol Cymru a chafodd ei debut fel cyfarwyddwr ffilm hefo The Mystery of Evil, ffilm opera arswyd yn cynnwys sgôr gan Richard Strauss' Salome. Mae ei waith wedi'i dangos ardraws Prydain, Awstralia ac Yr Almaen.

Ymunwch â Gareth Chambers a Churadur Perfformiad, Kit Edwards, ar ddydd Gwener 15 Medi am drafodaeth ar ôl y perfformiad, yn ein theatr o 8.30yh.