Mae disgyblion Ysgol Gynradd Radyr am gyflogi artist greadigol brwdfrydig ac ymroddedig i ddarparu 10 sesiwn i ddosbarth blwyddyn 5 o 30 o blant, fel rhan o gynllun ysgolion creadigol arweiniol. Bydd y ffocws ar rhifedd ac yn edrych i gynyddu iaith a geirfa y disgyblion i’w galluogi i esbonio a thrafod gwaith mae’n nhw’n ei wneud yn y dosbarth.

Mae’r disgyblion yn awyddus i weithio gyda chomedïwr, actor, dramodydd neu storïwr i archwilio sut y gall rhifedd, comedi a dweud straeon gyfuno i fagu hyder with ddefnyddio geirfa fathemategol.

Mae’r ysgol yn gobeithio magu hyder ac annibyniaeth y plant gan ddefnyddio modd gydweithredol o weithio ar y prosiect, gyda’r gôl o godi lefelau cyrrhaeddiad rhifedd.

ARTISTIAID

10 diwrnod o ddarpariaeth gyda’r disgyblion, a 1.5 diwrnod cynllunio ac 1.5 diwrnod o werthuso.

Tâl llawn i’r artist: £3800

Mae yna hefyd dipyn bach o gyllid i brynu deunyddiau i gynorthwyo’r prosiect.

Danfonwch CV a chrynodeb byr o sut y byddech yn ymdrîn â’r prosiect, at clarkj103@hwbcymru.net 

Dyddiad cau yr ymgeisiadau 12yb 22ain o Hydref.

BYDD ANGEN I CHI FOD AR GAEL:

7fed neu’r 8fed o Dachwedd ar gyfer cyfweliad gan gynnwys cynnal sesiwn 30 munud gyda’r plant.2.5 diwrnod o gynnllunio rhwng 13eg o Dachwedd a’r 1af o Ragfyr.

Am ddiwrnod hyfforddiant yn Abertawe os nad ydych chi wedi mynychu hyfforddiant ysgolion creadigol arweiniol yn barod.

Naill ai’r 15fed o Dachwedd 2023, neu’r 10fed o Ionawr 2024. Bydd ffi ychwanegol o £150 am fynychu’r hyfforddiant.

Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dyddiad cau: 22/10/2023