Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi galwad olaf am syniadau cychwynnol ar gyfer ei gronfa Cysylltu a Ffynnu, Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau cychwynnol yw’r 20fed o Hydref. Nod y gronfa yw rhoi syniadau newydd ar waith er mwyn cysylltu â phobl leol a gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau amrywiol.
Ar 1 Medi 2022 agorodd rownd 4 o Gysylltu a Ffynnu ar gyfer syniadau cychwynnol. Mae hon yn gronfa a gyllidir ag arian y Loteri Genedlaethol er mwyn annog cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau, unigolion a gweithwyr creadigol.
Mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno syniadau wedi bod ar agor ers 1 Medi, a’r dydd cau yw 5pm 20 Hydref 2022. Caiff syniadau llwyddiannus gyflwyno cais llawn yn Ionawr 2023.
Mae’r gronfa’n fodd i bobl o gymunedau a dangynrychiolir benderfynu sut y cânt arwain a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Hoffem ariannu prosiectau sy'n meithrin partneriaethau hir dymor i gysylltu â chymunedau.
Lansiwyd y gronfa yn hydref 2020. Erbyn hyn mae wedi ariannu 71 prosiect â thros £6.5 miliwn gan greu cyfleoedd hygyrch i glywed lleisiau newydd yn y celfyddydau. Mae'n cynnig rhwng £10,000 a £150,000 dros gyfnod o hyd at 24 mis. Pwysleisia’r gronfa bwysigrwydd cydweithio, perchnogaeth gymunedol, democratiaeth ddiwylliannol, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwaith teg a bod dan arweiniad artistiaid.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
DIWEDD 5 Hydref 2022