Creu Cysylltiadau Newydd - diwrnod rhannu creadigol i artistiaid benywaidd yng Ngorllewin Cymru.
Llwyddodd y grŵp llywio sy’n cynnwys Pip Lewis, Lisa Evans, Linda Norris, Emma Baker a Stirling Steward i sicrhau Cronfa Creu a Rhannu Cyngor Celfyddydau Cymru i'r Galwad Agored yma ar gyfer hyd at 30 o Artistiaid Gweledol gan gynnwys ffilm, symudiad a pherfformiad mewn cydweithrediad â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener 8 Mawrth 2024.
Ffocws y digwyddiad yw i artistiaid unigol  sy’n nodi eu bod yn fenywaidd i rannu eu harfer celfyddydol eu hunain, yn ogystal â rhoi cyfle i artistiaid gyflwyno syniad gydag artist o ddisgyblaeth arall, ar gyfer cyd-hwyluso gweithdy creadigol trwy brofiad.
Bydd y diwrnod yn cynnwys bore o gyflwyniadau Pecha Kucha gan wyth artist, cinio a rennir, a thri gweithdy rhyngddisgyblaethol creadigol cyfranogol yn y prynhawn i ddilyn. Mae yna hefyd alwad agored i artistiaid fynychu'r digwyddiad fel cyfranogwyr.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw unigolion sy’n perthyn i grŵp sy’n cael ei dangynrychioli. Er enghraifft, unigolion sy'n wynebu rhwystrau oherwydd eu rhywioldeb, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd, neu sy'n nodi eu bod yn Fyddar, yn anabl a/neu'n niwroddargyfeiriol.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi'r ffurflen hon erbyn dydd Gwener 24 Tachwedd.
Ffioedd
Cyflwyniadau artistiaid £40
Hwylusydd gweithdy £175 (£50 cyllideb deunyddiau ar gyfer pob un o'r 3 gweithdy creadigol).
Lleoliad
Byddwn yn cyflwyno'r diwrnod o 2 leoliad yn Hermon Sir Benfro - Y Stiwdio Hermon, a Neuadd Gymunedol Hermon.
Byddwch yn cael gwybod os ydych wedi cael eich dewis erbyn Rhagfyr 1af 2023, a bydd manylion pellach y diwrnod yn cael eu rhannu ar ôl y dyddiad hwn.