Mae Am yn chwilio am aelodau ar gyfer panel ymgynghorol newydd sy'n canolbwyntio ar wneud gwefan Am yn fwy hygyrch a gwella cynrychiolaeth unigolion Byddar, anabl, a/neu niwroamrywiol yn y celfyddydau.
Bydd y panel yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn trwy Zoom, a gynhelir yn Saesneg, gydag opsiynau ar gyfer cefnogaeth ychwanegol yn ystod cyfarfodydd.
Cadarnheir dyddiad y panel ymgynghorol cyntaf yn agosach at yr amser yn seiliedig ar argaeledd cyfranogwyr. Gan fod y panel ymgynghorol hwn yn canolbwyntio ar brofiadau pobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol sy'n ymwneud â'r celfyddydau'n ddigidol, rhaid i gyfranogwyr fod yn Fyddar, yn anabl a/neu'n niwroamrywiol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r panel ymgynghorol, llenwch y ffurflen yma! Byddwn mewn cysylltiad ar ôl y dyddiad cau.
- Cyfle â Thâl - £50 y sesiwn
- Dyddiad Cau - 20/08/2025
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth i helpu Am wella.
Mae’r ffurflen gais yn cymryd tua 3 munud i'w llenwi. Os hoffech chi gyflwyno'r wybodaeth hon mewn fformat arall, anfonwch e-bost at mari@pyst.net. Cefnogir y panel ymgynghorol hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru.