'Da ni'n chwilio am artistiaid o Ogledd Orllewin Cymru i weithio ar nifer o brosiectau cymunedol creadigol sydd ar y gweill.

Ydych chi'n:

  • Dda efo pobl?
  • Barod i gydweithio?
  • Efo'r egni a'r awydd i'n helpu ni i wneud gwahaniaeth?
  • Gwneuthurwr theatr, perfformiwr, dylunydd, awdur, cerddor neu artist gweledol?

Diddordeb

Cysylltwch drwy post@franwen.com neu anfonwch neges drwy un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn 12 Medi i fynegi diddordeb neu am wybodaeth bellach.

Mae hwn yn gyfle cyflogedig a chynhelir y sesiwn gyntaf ar 15 Medi.