Crynodeb
Ydych chi’n Ymarferydd Celfyddydau Perfformio sydd â phrofiad o weithio gydag unigolion o grwpiau agored i niwed sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol?
Mae'r Wallich yn chwilio am ymarferydd profiadol a brwdfrydig sy'n arbenigo mewn theatr i hwyluso rhaglen o weithdai yng Ngwent fel rhan o brosiect adrodd straeon Cymru gyfan.
Mae'r Prosiect Straeon, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi gweithio mewn partneriaeth â'r artist arweiniol Owen Thomas a phartneriaid o bob rhan o Gymru – gan gynnwys Theatr y Sherman, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Theatr Clwyd, Grand Ambition, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Theatr Glan yr Afon – i hwyluso adrodd straeon a ddatblygwyd gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, trwy gyfres o raglenni rhannu sgiliau theatr sy'n para deg wythnos.
Bydd grŵp o gyfranogwyr ym mhob rhanbarth yn cael ei gefnogi i ddatblygu darn byr o theatr sy’n adrodd stori am le drwy eu llygaid a’u profiadau nhw, a fydd yn cael ei rannu mewn digwyddiad rhannu lleol.
Beth rydyn ni’n ei gynnig?
Rydyn ni’n gofyn i’r Ymarferydd Creadigol ddarparu:
- 7 x sesiwn hanner diwrnod am £175 y sesiwn (gan gynnwys amser paratoi)
- 3 x hanner diwrnod ychwanegol ar gyfer cynefino, rhannu digwyddiadau a gwerthuso am £175 y sesiwn
Cyfanswm y Ffi: £1750.00
Bydd treuliau ychwanegol, gan gynnwys teithio a deunyddiau, yn cael eu talu ar wahân.
Ein Nodau:
- Mynd ati i ehangu cyrhaeddiad y celfyddydau yng Nghymru drwy chwalu rhwystrau i unigolion sy’n profi anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a’u cefnogi i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu hannog a bod lle iddynt mewn theatrau a gofodau celfyddydol ledled Cymru
- Meithrin diwylliant o ddysgu ar y cyd drwy wahodd artistiaid a sefydliadau celfyddydol i uwchsgilio defnyddwyr gwasanaeth The Wallich mewn sgiliau theatr trosglwyddadwy, ac i gymryd rhan mewn hyfforddiant – dan arweiniad pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd – ar sut i weithio gyda nhw a’u croesawu i fyd celf a’r theatre
- Sefydlu llwybrau at gyflogaeth, gwirfoddoli a chyfleoedd creadigol yn y dyfodol i gyfranogwyr ddatblygu eu diddordeb y tu hwnt i oes y prosiect a throsglwyddo eu sgiliau ar draws nifer o ddiwydiannau
- Datblygu rhwydwaith o theatrau, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn i ni allu parhau i gydweithio ar gyfleoedd creadigol yn y dyfodol
- Datblygu wyth cwmni theatr bach ledled Cymru sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a fydd yn chwarae eu rhan yn y broses o gynhyrchu darn theatr byr
Ein hamcanion: Beth rydyn ni eisiau ei gyflawni?
- Ffurfio Grŵp Llywio i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i lywio cyfeiriad y prosiect
- Sefydlu Grŵp Datblygu Sgriptiau Cymru gyfan ar-lein
- Cyflwyno wyth o raglenni gweithdai sy’n para deg wythnos, a fydd yn cefnogi grwpiau defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu eu cwmnïau theatr eu hunain a phennu rolau wrth iddynt gynhyrchu eu darnau theatr byr eu hunain, a fydd yn cael eu rhannu mewn digwyddiadau rhannu lleol
- Cysylltu â theatrau a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru a mapio cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned mewn ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan The Wallich
- Datblygu rhaglen hyfforddi wedi’i chyd-greu gyda defnyddwyr gwasanaeth a’i chyflwyno i fudiadau ac ymarferwyr celfyddydol
- Datblygu teithiau cleientiaid unigol gyda llwybrau clir ar gyfer datblygu sgiliau a ddysgwyd yn ystod y prosiect
- Dod o hyd i gyllid ar gyfer cynhyrchiad llawn sy’n cyfuno’r wyth darn byr, i’w gynnal yn 2025-2027
Briff i ymarferwyr: Beth rydyn ni’n chwilio amdano
Rydym yn awyddus i ymgysylltu ag ymarferydd celfyddydau creadigol yng Ngwent sydd â phrofiad o weithio gyda chyfranogwyr agored i niwed sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol.
Bydd yr ymarferydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm Celfyddydau Creadigol The Wallich, yr artist arweiniol Owen Thomas, a’r theatr bartner yn eu hardal i gyflwyno rhaglen o weithdai a fydd yn cyflwyno amrywiaeth o sgiliau theatr i grŵp o gyfranogwyr yn eu hardal.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i weithio gyda’u grŵp o gyfranogwyr yn ystod wythnosau 4-10 y rhaglen deg wythnos.
Bydd angen i’r gweithdai gynnwys actio, cyfarwyddo, crefft llwyfan a theatr dechnegol. Gellir hefyd archwilio’r posibilrwydd o ymgysylltu ag ymarferwyr gwadd ar gyfer meysydd arbenigol.
Bydd ymarferwyr yn cydlynu sut rhennir y gwaith gyda chymorth The Wallich, eu theatr bartner ac Owen Thomas.
Byddwn yn datblygu fframwaith gwerthuso cadarn drwy gydol y prosiect hwn a byddwn yn gweithio gyda’n hymarferwyr llwyddiannus i wreiddio hyn yn y prosiect.
Yn ddymunol, byddai’r Ymarferydd Ysgrifennu Creadigol/Drama yn siarad Cymraeg.
Cynhelir eich sesiynau ar ddydd Mawrth rhwng 12pm a 3pm gan ddechrau ddydd Mawrth 22ain Ebrill
Sut mae gwneud cais
Cyflwynwch y canlynol i rosie.seager@thewallich.net a denise.rogers@thewallich.net Erbyn 5pm ddydd Gwener 28 Mawrth 2025
1) Eich CV
2) Llythyr eglurhaol yn cynnwys amlinelliad byr o’ch profiad yn y gorffennol yn hwyluso gweithdai creadigol ar gyfer pobl agored i niwed a phobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, gan gynnwys unrhyw enghreifftiau a lluniau perthnasol o waith yn y gorffennol.
Rhaid i eirdaon fod ar gael ar gais.
Os oes gennych chi unrhyw syniadau neu gwestiynau yr hoffech eu trafod cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb, cysylltwch â rosie.seager@thewallich.net.
I gael syniad o bwy ydyn ni, gyda phwy rydyn ni’n gweithio a beth rydyn ni’n ei wneud, ewch i’n gwefan www.thewallich.com