Mae sioe newydd Volcano, Confessions of a Dark Room, yn nodi dechrau’r gaeaf, ac yn croesawu’r tywyllwch sy’n ein cofleidio.

Rydym yn symud oddi wrth ddyddiau hir a heulog yr Haf trwy nosweithiau tywyll yr Hydref a thuag at fisoedd hir y Gaeaf sy’n ein disgwyl. Sut allwn ni uniaethu â dyddiau du bywyd pan ymddengys ein bod wedi gwirioni’n llwyr â neon, goleuni, a gweld popeth sydd i’w weld? Mae fel petawn ond ag un synnwyr. Does ryfedd, cyfyngedig fel hyn, ein bod yn llawn dicter, gorbryder a thrachwant.

Dewch i gwrdd â'n chwmni bach o actorion sydd wedi'u cyhuddo o sawl methiant – twyll treth, diletantiaeth, anniweirdeb... Mae’r actorion hyn yn perfformio eu testunau gyda’r grefft a'r sylw i fanylder sy’n ddisgwyliedig o dalent arbennig. Maent yn dyfeisio stori noiraidd o ormodedd yn y golau gwan, yn talu teyrnged i Yukio Mishima ac Ingmar Bergman. Bydd Confessions of a Dark Room yn draed moch doniol a hardd - byddwn yn breuddwydio am diroedd eraill, gyda'n gilydd yng nghysgodion noson dywyll a llonydd.

Mae Confessions of a Dark Room yn parhau â'r bartneriaeth unigryw rhwng y cyfarwyddwr, Paul Davies, a’r dylunydd, Bourdon Brindille, sydd wedi cydweithio i greu Sincere as Objects a The Dread Zone. Coreograffi gan Catherine Bennett. Mae'r sioe wedi’i hysbrydoli gan ffilmiau Ingmar Bergman a llyfrau gan Junichiro Tanizaki, Yukio Mishima ac E.T.A. Hoffman.

Pear Chiravara, Christopher Elson a Thomas Leonard yw ein hactorion.

Bydd y sioe yn cael ei rhagolygion ar 29 a 30 Tachwedd, ac yn rhedeg tan 16 Rhagfyr ym mhencadlys Volcano yn Stryd Fawr, Abertawe.