YNGLŶN AG AM
Lansiwyd AM ym mis Mawrth 2020 fel y wefan ac ap digidol cyntaf sy’n rhoi platfform i’r celfyddydau digidol yng Nghymru. Yn ei ddeunaw mis cyntaf tyfodd fel cartref i dros 380 o sianeli (cyfuniad o artistiaid a sefydliadau creadigol), dros 230,000 o ddefnyddwyr unigryw a dros 8000 o ddarnau cynnwys wedi’u lanlwytho - presenoldeb digidol a chynulleidfa ddiwylliannol newydd i Gymru. Mae’n blatfform sydd wedi’i seilio ar hwyluso a hyrwyddo diwylliant dwyieithog cynhwysol yng Nghymru ac felly mae cynnwys Cymraeg, cynnwys celfyddydau anabl, cynnwys LGBTQ+ a chynnwys gan artistiaid diwylliannol ac ethnig amrywiol yn flaenoriaeth ragweithiol. Mae hefyd yn blatfform sy’n ceisio rhoi mynediad cyfartal i sefydliadau hen a newydd, creawdwyr/ sefydliadau bach a mawr, wrth ddod â rhagor o greadigrwydd cymunedol i ‘lwyfan’ genedlaethol. Yn ystod eon blwyddyn gyntaf rydym wedi dysgu llawer sy’n llywio ein cyfeiriad yn y dyfodol a’r hyn y byddwn yn ei gynnig. Yn yr un modd rydym wedi edrych ar sianeli sy’n gwneud yr un fath. Y syniad wrth wraidd y prosiect yw dod â’r holl syniadau a chwestiynau hynny at ei gilydd drwy ymchwilio a rhannu a dysgu am rywfaint o’r camau nesaf yn y daith ddigidol i gelfyddydau Cymru ac i ddatblygu AM fel rhan hanfodol o’r daith honno i’r celfyddydau.
PA FATH O SEFYDLIADAU ALL WNEUD CAIS?
- Mae’n rhaid i bob sefydliad fod a sianel ar AM neu’n fodlon cael un.
- Rydym yn gobeithio cefnogi sefydliadau llai a/neu gyda llai o adnoddau sy’n teimlo efallai eu bod wedi wynebu anawsterau yn sgil diffyg adnodau neu brofiad.
- Mae gennym ddiddordeb penodol mewn sicrhau bod cyfranogwyr y rhaglen yn cynrychioli cymysgedd gytbwys o ran iaith, amrywiaeth a chydraddoldeb ynghyd â dosbarthiad daearyddol.
CANLYNIADAU A THARGEDAU RHAGLEN
Bydd y rhaglen yn cynnwys hyd at ddau ‘lab’ pwrpasol, wedi’u dyfeisio yn ôl eich rhaglen artistig, uchelgeisiau a’ch sefyllfa bresennol o ran gwaith digidol. Er nad ydynt yn cael eu cyfyngu i’r themâu hyn, mae angen i gyfranogwyr ganolbwyntio ar strategaeth ddigidol/ cymysg, dulliau cyflwyno, partneriaethau, marchnata, dealltwriaeth cynulleidfa a dadansoddi data.
MEINI PRAWF
Aelodau staff AM, sef Alun Llwyd, Mari Hedd Lewis, Lea Glyn, a aelod o bwrdd PYST Cyf.
Bydd y meini prawf ar gyfer dewis yn seiliedig ar:
- Arloesi a herio’r syniad fel y mae’n cael ei gyflwyno
- Yr angen ar hyn o bryd, gan ystyried maint ac adnoddau’r sefydliad
- Hanes o weithio’n ddigidol
- Iaith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, dosbarthiad daearyddol
BETH SYDD EI ANGEN I FOD YN YMGEISWYR LLWYDDIANNUS?
- Sesiwn lab unigol i gynllunio a nodi meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i bennu’r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni’ch uchelgais
- Cwblhhau arolwg ar ddiwedd y rhaglen i nodi eich profiad a'ch barn.
Bydd amseriad y gweithdau lab yn dibynnu ar raglen artistig y cyfranogwyr. Bydd angen hyblygrwydd i gwblhau’r labiau unigol ac ar gyfer yr adborth terfynol.
Mae tryloywder a deall cysyniad y Datblygu Ddigidol a rhannu profiadau a dysgu gyda chyfranogwyr eraill yn rhan hanfodol o’r rhaglen hon. Bydd AM yn manteisio ar bob cyfle posibl i ddysgu ac esblygu ein hymarfer drwy’r rhaglen hon. Rydym yn ceisio gwella’r hyn rydym yn ei gynnig a rhoi gwell gwasanaeth i’r sector yn y dyfodol, ac mae’r meysydd ymarfer mwy arloesol a heriol o ddiddordeb i ni.
AMSERLEN
Bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis.
Penderfynir ar ddyddiad dechrau’r rhaglen mewn cydweithrediad â’r garfan u ymgeiswyr llwyddiannus, ond rhagwelwn y bydd y rhaglen yn dechrau yn gynnar ym mis Medi 2024.
Er ein bod yn rhagweld y gallai llawer o sefydliadau gwblhau’r rhaglen hon o fewn dau i dri mis, rydym yn barod i gefnogi rhai teithiau hyd at chwech mis (ond dim mwy na hynny).
SUT FYDD YMGEISWYR LLWYDDIANNUS YN ELWA AR Y RHAGLEN?
Bydd llawer o fanteision amrywiol i’ch sefydliad yn sgil Datblygu Digidol:
- Mentora dwys a phwrpasol am ddim law yn llaw â chyngor ymarferol gyda llwybrau i farchnata a hyrwyddo cynnwys.
- Cefnogaeth barhaus gan arweinydd y rhaglen - rhyddid i'r sefydliad neu gyfranogwyr ofyn cwestiynau o fewn sesiynau un-i-un
- Creu strwythurau a chysylltiadau ar gyfer twf digidol hirdymor mewn amgylchedd rhithiol a chymysg.
SUT MAE GWNEUD CAIS?
I wneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen Datblygu Digidol, bydd angen i chi gwneud cais sy’n mynd i’r afael â’r uchod ac yn cynnwys:
1. Eich sefyllfa ddigidol bresennol, gan nodi’n benodol:
- Rhaglen gwaith digidol presennol
- Eich cryfderau mwyaf o ran gwaith digidol
- Eich gwendidau mwyaf o ran gwaith digidol
2. Cyfansoddiad a chefndir eich sefydliad
- Nifer y staff
- Strwythur y sefydliad
- Disgrifiad cryno o’ch hanes a’ch maes gwaith presennol
3. Nodi pa aelodau staff yn eich sefydliad fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen (mae’n rhaid iddo/iddi fod yn aelod o’r tîm gyda chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau yn y maes gwaith hwn)
Rhaid cyflwyno pob cyflwyniad trwy lenwi ffurflen erbyn y 12fed o Fehefin. Gwnewch gais YMA
Os ydych chi am drafod unrhyw agwedd ar y rhaglen Datblygu Digidol cyn cyflwyno’ch cais, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am eich cais, e-bostiwch mari@pyst.net