Ymunwch â ni ar gyfer Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025, yn ffrydio’n fyw ar Am!

Gallwch wylio Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025 o gartref drwy ymuno â ffrwd byw ar Am, nos Iau yma o 7yh ymlaen!

Bob blwyddyn, mae gwobr Llyfr y Flwyddyn, sydd yn cael ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru, yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae’r Rhestr Fer yn cynnwys cyfanswm o 24 llyfr – deuddeg ym mhob iaith, tri ym mhob categori. 

Caiff enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eu cyhoeddi gan Carys Eleri mewn seremoni wobrwyo yn Theatr Sherman, Caerdydd ar nos Iau, 17 Gorffennaf. Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael eu rhannu ymysg yr awduron, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Ymunwch â ni i ddarganfod yr enillwyr trwy wylio’r ffrwd byw ar wefan Am am 7yh!