Mae Fforwm Agored Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn ofod i ddysgu mwy am ein gwaith ni, ac i rannu newyddion, cyfleoedd a datblygiadau o fewn y gymuned gerddorol ehangach. Bydd y fforwm hefyd yn darparu cyfle i drafod pynciau cyfredol yn y maes addysg cerdd, ac i rwydweithio.
Yn ystod y sesiwn hon ym Mangor bydd:
• Diweddariad am waith y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol
• Gweithdy ar gerddoriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
• Trafodaeth banel ar lwybrau plant a phobl ifanc trwy addysg gerdd.
• Cyflwyniadau gan rhai o bartneriaid allweddol y GCC.
• Perfformiadau
• Cyfle i rwydweithio gyda phartneriaid eraill - yn lleol i Wynedd a Gogledd Cymru, ac yn genedlaethol
Mae croeso i bawb i'r digwyddiad hwn. Gallwch hefyd sicrhau lle i hyrwyddo gweithgareddau eich grwp neu sefydliad.
Mae tocynnau am ddim ac ar gael drwy ddilyn y linc i wefan Eventbrite. Os nad ydych yn medru bod yna ar y dydd, gallwn ddarparu linc i ddarllediad byw o'r drafodaeth.