Os ydych chi’n gobeithio llenwi’ch calendr gyda ffilmiau Cymreig ac eistedd o flaen y sgrin fawr mewn sinema glyd, mae gennym ni restr o ffilmiau i chi dros y gaeaf hwn.
Mae 2024 eisoes wedi bod yn flwyddyn brysur i ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Eleni rhyddhawyd ffilmiau dramatig megis The Almond and the Seahorse, Unicorns and Chuck Chuck Baby, a’r animeiddiad epig; Kensuke’s Kingdom. Cafwyd cyfweliad Gwnaethpwyd yng Nghymru arbennig ar gyfer pob un i gyflwyno’r cysylltiadau Cymreig i gynulleidfaoedd.
Mae hyd yn oed mwy ar y gweill i ni eu mwynhau, gan gychwyn gyda Timestalker, sydd yn cael ei rhyddhau 11 Hydref. Mae’r cyfarwyddwr Alice Lowe yn creu siwrnai carmig, doniol, sydd weithiau’n dreisgar, sy’n dilyn yr arwres anlwcus, Agnes, sy’n ailymgnawdoli ar ôl ailadrodd yr un camgymeriad: sef cwympo mewn cariad gyda’r dyn anghywir. Mae gan y ffilm nifer o gysylltiadau Cymreig, o’r cynhyrchydd Vaughan Sivell, i’r actor Aneurin Barnard, wnaeth ffilmio cyfweliad gyda Gwnaethpwyd yng Nghymru yr wythnos yma. Fe’i ffilmiwyd hefyd yng Nghaerdydd a Thŷ Penpont yn Aberhonddu.
Darganfyddwch beth sy' 'mlaen yn y sinemâu, a mwynhewch gyfweliadau ac erthyglau ‘exclusive’ Gwnaethpwyd yng Nghymru: