Prosiect a ariannwyd gan Llais y Lle oedd We No Longer Talk; fe ganiataodd i’n Cyfarwyddwr Artistig Rhiannon White a’r artist Ffion Wyn Morris archwilio’r gwahanol berthnasoedd â’r Gymraeg mewn cymunedau dosbarth gweithiol yng Ngogledd a De Cymru.
Fe wnaeth Rhiannon a Ffion ragweld cysylltiad, empathi a chwilfrydedd yn eu gwaith, ac mae’r ffilm hardd a hiraethus hon yn cyfleu’r ysbryd hwn. Mae’r ffilm yn defnyddio Arabeg, Saesneg, Somali a Chymraeg i archwilio perthynas rhwng iaith, lle a chymuned. Mae’r ffilm Llais y Lle yn edrych yn deimladwy ar unioni’r cyfleoedd coll i ddysgu Cymraeg; y cysylltiad rhwng ein hafonydd hynafol a’n hanes chwyldroadol; a phwysigrwydd cloddio’n ddyfnach na’r sloganau arwynebol ar nwyddau anghynaladwy yn y siop anrhegion.
Ffilm gan Gavin Porter. Cysyniad a Chyfarwyddo gan Rhiannon White and Ffion Wyn Morris. Cyfansoddiad gan Gwen Siôn. Wedi’i dyfeisio, ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Ali Goolyad, Bedwyr Williams, Jude Thoburn Price, Liws, Rhys Trimble a Thaer Al-Shayei.
Gallwch ddarllen am ein proses a gwylio’r ffilm ar ein gwefan yma.