Mae asiantaeth datblygu ffilm Cymru wrthi’n datblygu wyth ffilm fer newydd drwy eu cynllun Beacons, gyda chefnogaeth BBC Cymru Wales a BFI NETWORK yn sgil arian y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn amlygu talent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru i greu ‘cerdyn galw sinematig’ drwy gynnig cyllid, hyfforddiant, mentoriaeth ac arweiniad. Ers 2014, mae'r cynllun wedi cynhyrchu 35 o ffilmiau byrion sydd wedi eu dangos mewn sinemâu, ar y teledu ac ar sgriniau digidol ledled y byd.

Mae llechen ddiweddaraf ffilmiau byrion Ffilm Cymru Wales yn cynnwys tri phrosiect Cymraeg, dwy raglen ddogfen a drama wedi’i hanimeiddio, sy’n dangos rhychwant eang y dalent, y diwylliant a’r creadigrwydd sy’n bodoli yn y gymuned ffilm yng Nghymru. Meddai Jude Lister, Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales: “Mae ein llechen ddatblygu Beacons ddiweddaraf yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o dalent ac o straeon sy’n dod o bob rhan o Gymru. Mae wedi bod yn arbennig o gyffrous gweld cyflwyniadau Cymraeg yn mynd o nerth i nerth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r timau ar eu prosiectau.”

Chwinc
Awdur-Gyfarwyddwr: Siôn Eifion
Cynhyrchydd: Ceri Hughes
Mae bociswr cwîar yn hiraethu am y dyddiau da, ac yn ceisio ail-fyw profiad treisgar. Mae gan yr actor a’r awdur Siôn Eifion brofiad helaeth ym myd y theatr a’r teledu yng Nghymru, gan gynnwys y gyfres Deian a Loli ar S4C, y gyfres Hidden ar BBC4, a’r ffilm Y Swn sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru.

Do You Deliver?
Awdur-Gyfarwyddwr: Jack Jones
Drama gomedi dywyll am fachgen ifanc sy’n dosbarthu bwyd yw Do You Deliver?, a phan mae’n darganfod beth yn union mae wedi bod yn ei gludo, mae ei fyd yn cael ei daflu oddi ar ei echel. Dechreuodd Jack ar ei daith yn y byd ffilm fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu ar ffilmiau byrion Gwobr Iris, cyn ennyn profiad fel fideograffydd, ffotograffydd a chyfarwyddwr masnachol i’r brand ffasiwn Vogue.

Green Light
Awdur-Gyfarwyddwr: Zahra Al-Sultani
A hithau newydd roi genedigaeth, mae Farida yn cael trafferth ymdopi gan nad yw’n gwybod a yw ei theulu yn farw neu’n fyw. Er fod ei chorff, fel petae, yng Nghasnewydd, mae ei meddwl ymhell i ffwrdd…mewn rhyfel. Mae Zahra wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu, y theatr a Sony Playstation, ac wedi cyfarwyddo fideo cerddorol ar gyfer yr artist newydd Nayiem. Yn ddiweddar bu’n Awdur Preswyl yn Sister Pictures.

Holm
Awdur: Nico Dafydd
Cyfarwyddwyr: Nico Dafydd, Lleucu Non
Cynhyrchydd: Amy Morris, Winding Snake 
Mae hiraeth, a’r broses anochel o dyfu i fyny, yn rymoedd gwrthgyferbyniol i Cati a’i thad yn y ddrama Gymraeg hon sydd wedi ei hanimeiddio. Cafodd yr awdur-gyfarwyddwr Nico Dafydd ei fentora trwy raglen Y Labordy Ffilm Cymru Wales, tra bod yr artist a’r animeiddiwr Lleucu Non wedi creu gwaith yn y gorffennol i BBC ac S4C.

Mandoline
Awduron: Joshua Neale, Abraham Smith
Cyfarwyddwr: Joshua Neale
Mewn cegin brysur mae Bill, sy'n ei arddegau, a'r prif gogydd cwerylgar, Gerry, yn gwrthdaro wrth i'r tensiwn rhwng y dyn sydd eisoes wedi torri, a’r bachgen sydd wrthi’n cael ei chwalu, yn arwain at wers wylaidd mewn ‘sonder’. Mae Joshua Neale wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gyfer Channel 4 a BBC Storyville, yn ogystal â fideos cerddorol arobryn a hysbysebion ar gyfer brandiau ac elusennau gan gynnwys Johnnie Walker, CBeebies, ac UNICEF.

Mynd
WAwduron: Oliver Gabe, Erin Mathias
Cyfarwyddwr: Oliver Gabe
Cynhyrchwyr: Lee Haven Jones, Adam Knopf
Mae pobl ifanc yn eu harddegau’n lladd eu hunain yn nhref enedigol Daf a Ham, felly mae’r pâr yn mentro i’r coed i chwilio am yr hyn maen nhw’n ei gredu sy’n gyfrifol: y rhyfeddol, chwedlonol Jack Death. Ariannwyd ffilm fer Oliver, Sin Eater, drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru, ac mae’r awdur, Erin, wrthi’n llunio ei chasgliad cyntaf o straeon byrion. Gyda'i gilydd, buont yn cyd-olygu’r cylchgrawn  Cymraeg hynod, Y Papur.

Rick on the Roof
Awdur-Gyfarwyddwr: Isaac Mayne
Cynhyrchydd: Nan Davies
Rhaglen ddogfen yn dilyn Rick Canty, oedd yn protestio ar ben toeau, ac a frwydrodd rhag cael ei droi allan o’i gartref trwy fyw ar ben to ei dŷ yn y Barri, De Cymru am dair blynedd. Yn groes i’r disgwyl, bu i’r weithred ei ddyrchafu’n arwr, ac y mae’r dref yn dal i gofio amdano. Mae’r Awdur-Gyfarwyddwr, Isaac Mayn, yn gwneud ffilmiau ac yn gyfarwyddwr creadigol, gyda’i waith yn canolbwyntio ar gyfiawnder a chymunedau.

Sqrauks 
Awdur: Jason Smith
Cyfarwyddwr: Lisa Smith
Cynhyrchwyr: Jason Smith, Lisa Smith, Patrin Films
Rhaglen ddogfen bersonol am Margaret Smith, nain o Gymru sy’n perthyn i’r gymuned Romani, cymuned y mae ei diwylliant hynafol o nomadiaeth yn cael ei herydu gan ddeddfau llym ac ‘uwchraddio’ trefi. Mae Lisa a Jason ill dau wedi gwneud nifer o ffilmiau byr, gan gynnwys gyda Random Acts. Maent yn angerddol am adrodd straeon cymunedau’r Roma a’r Teithwyr gan sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n ddilys.

Cafodd pump o ffilmiau byr y Beacons eu dangos am y tro cyntaf yn ddiweddar ar BBC Cymru, ac maent bellach ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer: drama gyfnod LGBTQ+ Tracy Spottiswoode, Sally Leapt Out of a Window Last Night; drama dyfod-i-oed Charlotte James, Doss House; rhaglen ddogfen Siôn Marshall-Waters, Forest Coal Pit; drama Peter Darney, G♭, a Geronimo, ffilm arswyd Geraint Morgan.

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: "Llechen arall hynod amrywiol o ffilmiau ar gyfer BBC Cymru Wales ac iPlayer. Mae'n arddangosfa llawn o waith rhagorol, sydd ar gael i gynulleidfaoedd ei mwynhau ledled Cymru a’r DU. Mae'n wych. Dyma llechen o ffilmiau byrion sy'n cael effaith gwirioneddol. Menter arbennig i fod yn rhan ohoni."

Bydd cylch nesaf cronfa ffilmiau byrion y Beacons yn agor yn 2024.