Bydd Cronfa amgylcheddol Gwyrddu’r Sgrin yn datblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau er mwyn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol y sector sgrin yng Nghymru.

Mae Ffilm Cymru Wales a Media Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ar Gronfa newydd gwerth £600,000, sef Cronfa Gwyrddu’r Sgrin. Gall sefydliadau ym Mhrifddinas-Rhanbarth Caerdydd wneud cais am hyd at £250,000 i ddatblygu eu gwaith ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol. 

Mae’r Gronfa’n cael ei rheoli gan Innovate UK, ac mae’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Mae’n canolbwyntio ar brosiectau ymchwil a datblygu sydd â’r potensial i sicrhau newid cadarnhaol a hirdymor ar draws y sector.

Ar sail ymchwil Screen New Deal BFI ac albert BAFTA, mae’n rhaid i brosiectau leihau’r effaith negyddol y mae’r sector sgrin yn ei chael ar yr amgylchedd drwy feysydd allweddol ynni a thanwydd, trafnidiaeth, economi gylchol a gwastraff, yn ogystal â chasglu a lledaenu data. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Gronfa’n annog sefydliadau ar draws y sector sgrin a diwydiannau eraill i gydweithio.

Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn rhan o raglen ehangach Ffilm Cymru Wales, ac mae’n cefnogi gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sgrin a chwmnïau yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid a hyfforddiant, ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu, er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer sector sgrin gynaliadwy i Gymru. 

Dywedodd Louise Dixey, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffilm Cymru Wales: “Mae’n gyfnod cyffrous i fynd i’r afael â chynaliadwyedd ar y cyd yn y diwydiant sgrin, ac mae’r Gronfa sylweddol hon yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad Screen New Deal BFI ac albert BAFTA. Mae gan y diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu gyfle unigryw i fod yn gatalydd ar gyfer newid.”

Mae Media Cymru yn fenter gydweithredol i droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Eu gweledigaeth yw helpu Cymru i fod yn arweinydd ym maes cynhyrchu cyfryngau amgylcheddol cynaliadwy (gwyrdd).

Dywedodd Greg Mothersdale, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru, sy'n arwain ar gynaliadwyedd amgylcheddol: “Mae’n amlwg bod angen i’r sector sgrin leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff materol fel blaenoriaeth. Rydyn ni’n chwilio am ddatrysiadau tymor hir i heriau’r diwydiant o gyrraedd sero net. Mae ein Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio a datblygu datrysiadau arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn, ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan unrhyw ddiwydiant a allai gydweithio â’r sector sgrin er mwyn gwneud hynny.”

Bydd Cronfa Gwyrddu’r Sgrin ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 18 Medi a 1 Tachwedd 2023, gyda phrosiectau yn dechrau o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i fan hyn.