Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”

Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. 

Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.

Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos. 

Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”

Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa.

Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol anffuriol wedi ei arwain gan MWY mewn rhai o’r lleoliadau. 

Beth allai fod yn well?

 

Canllaw oed 14+. Defnyddir iaith gref. 

???? – Carys Gwilym

?????????? – Iola Ynyr

??????? – Osian Gwynedd

?????????? – Llywelyn Roberts

?????????? – Lois Prys

 

Manylion y daith a tocynnau - https://www.theatrbaracaws.co.uk/cy/sioeau/ffenast-siop-2024-2024-04-18