Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy'n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae'r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy'n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Mae Feral Monster wedi’i hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang.

Y cast yw Lily Beau, Carys Eleri, Geraint Rhys Edwards, Rebecca Hayes, Nathaniel Leacock a Leila Navabi.

Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’i cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, a Jack Arts.

BSL

Gwyliwch y trelar BSL

Mae pob perfformiad BSL yn cael ei ddehongli gan Nikki Champagnie Harris.

Perfformiadau sain a theithiau cyffwrdd

Gwrandewch ar ein taflen sain

Darperir teithiau cyffwrdd a pherfformiadau sain gan Owen Pugh.

Mae Teithiau Cyffwrdd yn cynnig cyfle i ymwelwyr dall neu â golwg rhannol ddod yn gyfarwydd â’r set, y propiau a’r gwisgoedd cyn y perfformiad. Archebwch ymlaen llaw drwy'r dolenni cyfatebol isod.

Perfformiad ymlaciedig

Bydd perfformiad ymlaciedig ar 22 Chwefror.

Theatr y Sherman, Caerdydd

Dyma wybodaeth hygyrchedd y lleoliad.

Bydd yna:

  • Disgrifiad sain a taith cyffwrdd ar 20 a 21 Chwefror
  • Dehongliad BSL ar 20 a 24 Chwefror
  • Perfformiad ymlaciedig ar 22 Chwefror.

Archebwch ar gyfer taith cyffwrdd ar 20 Chwefror o 21 Chwefror.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dyma wybodaeth hygyrchedd y lleoliad.

Bydd sain ddisgrifiad a thaith cyffwrdd ar y 29 Chwefror.

Archebwch daith gyffwrdd.

Pontio, Bangor

Dyma wybodaeth hygyrchedd y lleoliad.

Bydd yna:

  • sain-ddisgrifiad a taith cyffwrdd gan Owen Pugh ar 6 Mawrth
  • bydd dehongliad BSL ar 7 Mawrth.

Archebwch daith gyffwrdd.

Ffwrnes, Llanelli

Dyma wybodaeth hygyrchedd y lleoliad.

Dehongliad BSL ar 13 Mawrth.

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Dyma wybodaeth hygyrchedd y lleoliad.

Gwybodaeth am y cynnwys

Argymhelliad oedran 14+. Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref yn ogystal â:

Cyfeiriadau at: archwilio hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb, pornograffi, rhyw, marwolaeth, alcoholiaeth, trais rhywiol, hunanladdiad, trawma plentyndod, salwch meddwl, tlodi.

Portreadau o: trais, troseddau cyllyll, gweithgarwch rhywiol.