Lansio: Dydd Iau 17th Ebrill
Agor: Mercher - Sadwrn, 11.00 - 17.00
19/04/25 - 14/06/25
Farah Allibhai, Emii Alrai, Alice Banfield, Abi Birkinshaw, Mohamed Hassan, Dead Paisley, Tina Rogers, Luke Roberts and Roxy Topia & Paddy Gould.
Beth yw dy bwnc arbenigol personol? Mae gan bob un ohonom bethau penodol ‘dyn ni’n ffan ohonynt, y casgliadau, ailadroddiadau, pentyrrau o brofiadau neu wrthrychau sy’n rhedeg yn baralel gyda’n bywydau bob dydd. Weithiau mae llinell denau rhwng y gair ffan sydd gan amlaf yn bositif, a’r mymryn-dros-ben-llestri ffanatig.
Weithiau mae’r pethau hyn yn gyffrous a chyhoeddus, adegau eraill maent yn weithgareddau unigol, preifat. Weithiau efallai ‘dyn ni ddim yn deall yn gyfan gwbl beth sy’n ein hel ni i’w cyfeiriad. ‘Dyn ni wedi uno naw artist i ymateb i’r ysgogiad hwn, gyda gwaith newydd a chasgliadau sy’n bodoli eisoes.
Mae rhai o’r artistiaid yn ymateb i ddiwylliant poblogaidd, yn arbennig pan maent wedi ei brofi yn eu blynyddoedd ffurfiannol. Mae gwaith Roxy Topia a Paddy Gould wedi cael ei ysbrydoli’n fawr gan ffilm pulp a sinema cyllideb isel. Mae hyn yn dod i’r amlwg yn eu gwaith ymchwil diweddaraf i Astrovision, sef siop rhentu yn swydd Gaerloyw yn yr 80au canol lle'r oedd nain Roxy yn arfer gweithio. Mae Abi Birkinshaw yn dod a’u delw i’w chelf gyda Dolly Parton yn arwain y ffordd yr union fel mae hi wedi gwneud i Abi llawer tro ar hyd y blynyddoedd. Mae Luke Roberts yn cofleidio croesddywediad a dargyfeiredd o normau diwylliannol a disgwyliadau ynghylch hunaniaeth. Obsesiwn gyda cheir yw pwnc gwaith newydd Luke mewn paentio a cherflunio.
Mae artistiaid eraill yn mynd yn ôl ymhellach, i brofiadau plentyndod a ffyrdd o’u deall. Mae Alice Banfield, mewn ffurf chwedlau tanseiliol a mytholeg bersonol yn archwilio gwrthrychau trawsnewid. Wedi datblygu o deganau llawn cymeriad ei phlentyndod, mae ei cherfluniau a’i darluniau yn adlewyrchu’r gwrthrychau or-garedig, sydd yn ddi-lol ac yn ddymunol bell o’r byd go iawn. Mae gan Tina Rogers ddihangfa, sef moment ffantasi o ffilm Disney ac wedi ei droi i mewn i lyfr lliwio, darluniad ailadrodd, yn cadw o fewn ei llinellau ei hun dro ar ôl tro.
Mae rhai artistiaid yn archwilio obsesiynau, neu ailadroddiadau fel ffyrdd o fordwyo’r byd o’u hamgylch. Mae Farah Allibhai yn gwneud sawl adroddiad o’r un weithred, rhywle rhwng obsesiwn a defod - silff syml sy’n ffurfio allor, cysegrfa o eitemau casgledig sy’n dal arwyddocâd a gobaith. Mae Mohamed Hassan yn edrych ar obsesiwn cenedliadol. Roedd gan ei dad gymaint o obsesiwn gyda ffotograffiaeth ag yntau. Mae gorfodaeth yn y modd mae Mohamed yn creu gwaith; yn ymateb i fywyd gyda ffotograffiaeth.
Mae yno hefyd olwg ar gasgliadau, ar bentyrrau sy’n ennill sylwedd yn ôl eu nifer. Mae gan Dead Paisley bethau ar ben ei gilydd, mae hi’n casglu’r pethau nad oes eu heisiau gan eraill. Rhan o’i chasgliad yw dannedd. Mae hi’n newid o fod yn guradur i fod yn artist i arddangos ei chasgliad yn ein warws oedd arfer bod yn gartref i gwmni gwneuthurwr deintyddol. Mae Emii Alrai, sy’n aml yn teithio ar gyfer ei gwaith, yn cyflwyno 49 o gardiau post o gasgliad personol eang, yn adlewyrchu ei thripiau ymchwil a dargyfeiriadau, o arteffactau hynafol i losgfynyddoedd a thrwy Elvis i sothach llwyr.