Mae Chapter yn falch iawn o gyhoeddi’r artis­ti­aid ar gyfer Experimentica 2024, yr ŵyl celf fyw ddwy­flynyddol sy’n rhedeg dros bed­war diwrnod, rhwng 11 ac 14 Ebrill. Bydd y foment fywiog yma ar gyfer arfer arbro­fol yn ard­dan­gos gwledd o waith com­isi­wn newydd gyda pherf­formi­adau, ail-greadigaethau, gweithdai, cynul­li­adau a dangosiadau.

O dan y thema Galwad i’r Gwanwyn, mae Experimentica 2024 yn nodi troad y tymhorau tuag at fywyd newydd. Mae’r ŵyl eleni yn gwahodd artistiaid a chymunedau i ymuno yn y dathliad o’r ecolegau sy’n cynnal perfformiadau o fewn a thu hwnt i’r ardal leol. Wrth i’r gwanwyn ddeffro, fe ddown ynghyd i ddychmygu dyfodol cyfunol, gan gofleidio’r anhrefn a’r digymell sy’n rhoi lle i newydd-deb ddod i’r amlwg.

Bydd SERAFINE1369, sy’n adnabyddus yn rhynwgladol am eu gwaith rhyngddisgyblaethol ar groesfan dawns, celf, athroniaeth, a dewiniaeth, yn cyflwyno gwaith comisiwn cyfareddol newydd. Drwy hen ystafelloedd ysgol yr adeilad, bydd y gasgleb gelfyddydol o’r de-ddwyrain, SCORE, yn archwilio perffomiadedd a chwarae yng nghyd-destun Cymru mewn comisiwn newydd safle-benodol.

Bydd dangosiad cyntaf Cymru o A Felling gan Future Ritual yn archwilio cysyniadau marwolaeth, aileni, a throsglwyddo egni rhwng cyrff ac amgylcheddau. Gyda chyfle i gysylltu â marwolaeth a galar, mae Farah Allibhai yn gwahodd pawb i My Bhᾶti, wedi’i anrhydeddu ag offrwm gobaith ar gyfer y newydd drwy’r ddaear, had a bwyd.

Gan diwnio i mewn i’r corff a chyrff eraill; mae Forest Silent Gathering gan Begüm Erciyas yn creu pensaernïaeth sain-gymdeithasol lle gallwn fod ar ein pennau ein hunain gyda’n gilydd. Mae Naomi Pearce a Stuart Middleton yn cyflwyno gwaith-ar-waith o brofiad gwrando, lle gwahoddir y cyfranogwyr i suddo i’r gors ac i archwilio llorweddoledd, ac mae perfformiad aml-leisiol Rebecca Jagoe yn archwilio’r berthynas rhwng cwiardeb a gwallgofrwydd ar draws ieithoedd, ledled gwahanol ofodau Chapter mewn gwaith-ar-waith newydd.

Mae Ffion Campbell-Davies yn dod â cherddoriaeth fyw, symudiad a chelf weledol ynghyd, gan ymgorffori defod, Qigong a meddyginiaeth draddodiadol Tsieineaidd; ac yn An Array of Opposites, mae Anushiye Yarnell yn ein gwahodd i gymryd rhan mewn ymarfer symud myfyriol i ailosod ein hunain fel organebau sy’n meddwl a theimlo.

Mae Ocean Baulcombe-Toppin yn rhannu menter celf-bost sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer defod breifat ar bapur hadau planadwy fel ffordd o gadw gobaith. Mae mytholeg a realiti yn gwrthdaro yn arfer cydweithredol good cop bad cop, sy’n chwarae gyda phŵer y trothwyol rhwng y ‘real’ a’r ‘dychmygol’ yn eu gwaith newydd, Mince. Mae’r gasgleb drag DOOMSCROLL yn cyflwyno BDSM Gardener’s Question Time gan ddod ag ecolegau cwiar a diwylliant clwb at ei gilydd.

Gyda chyfraniadau’n amrywio o ddelweddau symudol, cerflunwaith, ffotograffiaeth, print a phaentiadau, mae Adham Faramawy yn cynnal eu harddangosfa unigol gyntaf yng Nghymru gydag In the simmering air and the flows of the undercurrent, a fydd yn ymddangos ar draws gofodau’r oriel a’r blwch golau. Mae Lou Lou Sainsbury a Holly Slingsby yn cyflwyno gwaith delweddau symudol ar draws sgriniau Chapter, ac mae grŵp darllen rhyngddisgyblaethol Kathryn Ashill a Paul Hurley, A Composting Heap, oll yn ceisio rhannu ac ehangu ar thema Galwad i’r Gwanwyn.

I gyd-fynd â Hwb Gŵyl Experimentica, bydd y siop lyfrau grwydrol dan arweiniad artistiaid, Yellow Back Books, yn cynnig ystod o lyfrau artistiaid i’w gwerthu drwy gydol yr ŵyl. Mae trawsnewid wrth wraidd y casgliad yma, wrth i Experimentica 2024: Galwad i’r Gwanwyn ddod yn llwyfan i ansefydlogi, i hel ac i hau, ac i ganiatáu i ffurfiau a chysylltiadau newydd ddatod o’r tywyllwch.