Mae'r cerflun lliwgar o eog a arferai gael ei gartrefu ym mhwll nofio Canolfan Casnewydd wedi chwarae rhan ganolog mewn prosiect celfyddydol ac ymgysylltu â'r gymuned blwyddyn o hyd o'r enw 'Diogelu ein Dyfroedd' dan arweiniad yr artist mosaig a gweledol Stephanie Roberts a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.

Yn ôl ym mis Gorffennaf 2022, ariannodd gŵyl theatr stryd deuluol Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw, Big Splash, y comisiwn i drawsnewid yr hen degan dŵr yn gerflun mosaig sy'n dod ag ymwybyddiaeth o'r llygredd yn ein dyfroedd ledled Cymru. Mae'r prosiect 2022-23 hwn yn adleisio'r prosiect cymunedol 'NA i Forfila' o Big Splash 2014 a ailbwrpasodd yr hen forfil yng Nghanolfan Casnewydd i gefnogi ymgyrch Greenpeace.

Nod y prosiect ymgysylltu cymunedol hwn oedd cysylltu ag ystod amrywiol o deuluoedd, unigolion a grwpiau, gan gynnwys Cyngor Ieuenctid Casnewydd, ledled Casnewydd ac ymgysylltu â nhw drwy weithgarwch celfyddydol i drafod a chreu celf sy'n cynnwys negeseuon ac yn rhannu'r pryderon amserol am y cynnydd mewn llygredd dŵr.

Roedd y gymuned yn rhan o'r prosiect drwy'r dylunio cychwynnol i'r broses o drawsnewid y cerflun yn fosaig. Gan ddefnyddio gwydr lliw a serameg, creodd y prosiect gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd mewn profiad creadigol a phleserus, wrth drafod y pwnc emosiynol hwn.

Cymerodd dros 130 o unigolion ran yn y broses o drawsnewid yr eog, ac wrth i'r gweithdai fynd rhagddynt datblygodd stori 'Ein Heog'. O degan dyfrol i bortread mosaig o eog gwrywaidd iach gyda stori deimladwy iawn; mae'r eog yn dychwelyd i Afon Wysg o'r cefnfor i fridio ond mae'n cael ei hun yn sownd mewn teiar tractor yn pendroni ei ddyfodol.

 

Dros yr haf mae 'Ein Heog' wedi teithio'r wlad ar amrywiaeth o brosiectau allgymorth gan gynnwys ymweld â'r Gelli fel rhan o'r ŵyl lythrennedd ddiwedd Mai a dechrau Mehefin. Aeth ar ymweliad hefyd â Gŵyl WOMAD, lle cafodd wahoddiad i gefnogi gweithredoedd Greenpeace yn yr ŵyl a daeth yn bwnc sgwrsio go iawn ymhlith mynychwyr a threfnwyr yr ŵyl fel ei gilydd.

Dychwelodd yr eog i Lan yr Afon ddiwedd mis Gorffennaf ar gyfer Big Splash 2023 i arddangos ei thrawsnewidiad cyflawn a chynhaliodd Cyngor Ieuenctid Casnewydd weithgareddau celf a chrefft a ysbrydolwyd ganddi. Galluogodd hyn i'r Cyngor Ieuenctid rannu ei negeseuon gyda chynulleidfaoedd mwy o faint, gan ysbrydoli trafodaeth newydd am brosiectau'r dyfodol.

Wrth sôn am y prosiect 'Diogelu Ein Dyfroedd', mae'r artist Stephanie Roberts yn dweud... 'Ar bob cyfle rwy'n ceisio defnyddio pŵer gweithgaredd celf i gysylltu â chymunedau am faterion cyfoes. Mae llygredd amgylcheddol a'r stori am Eog yn drawiadol iawn ac mae goblygiadau difrifol os nad ydym yn gweithredu ar beryglon llygredd dŵr. Fel y nodwyd yn glir felly yn y broffwydoliaeth Indiaidd Cri hon dros 100 mlynedd yn ôl, fel arsylwad o'r trachwant ariannol yn ein cymdeithas: "Pan fydd y goeden olaf wedi ei thorri i lawr, y pysgodyn olaf yn cael ei fwyta a'r nant olaf wedi’i gwenwyno fyddwch chi'n sylweddoli na allwch chi fwyta arian."  Geiriau grymus sy'n dweud popeth."

Ychwanega Sally-Anne Evans, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon 'Rwy'n falch fy mod wedi gallu datblygu'r gwaith ymhellach gyda Stephanie Roberts.  Ar un lefel mae'n wych etifeddu rhywbeth gan Ganolfan Casnewydd sy'n dal cymaint o atgofion i bobl. Mae gan y Morfil a nawr yr Eog stori amgylcheddol mor bwysig, yn rhyngwladol, yn ogystal ag yn lleol.

Mae Steph a'r holl aelodau o'r gymuned a ddaeth draw wedi creu gweithiau celf hardd y gall Casnewydd fod yn falch iawn ohonynt. Gobeithio y bydd parhad hyn yn y gwaith o fewn ysgolion yn ogystal â grwpiau yn sicrhau bod y sgwrs ynghylch ein heffaith amgylcheddol yn parhau.'

 

Mae cynlluniau'r eog ar gyfer y dyfodol yn cynnwys creu Prosiect Celf a Llythrennedd ysgol gynradd, felly gall yr 'Eog', sydd bellach wedi'i enwi'n Gymraeg, rannu ei neges trwy lyfr darluniadol addysgol. Bydd y prosiect hwn yn galluogi Stephanie Roberts i weithio ochr yn ochr â phobl greadigol ac ysbrydoledig i gryfhau ymhellach ymwybyddiaeth addysgol o sut mae llygredd yn effeithio ar ein defnydd o'r afonydd a'r moroedd ac yn effeithio ar ein hiechyd ni ac iechyd bywyd gwyllt ac ecosystemau.

Bydd Angela Jones, nofiwr gwyllt Afon Gwy sydd hefyd wedi cymryd rhan yn y gwaith o greu'r eog, yn cynnal sgwrs yng Nglan yr Afon yn ddiweddarach eleni. Bydd hi'n rhannu ei phrofiadau o nofio gwyllt yn afonydd Cymru a'i gwaith angerddol dros amddiffyn ein hafonydd drwy gasglu tystiolaeth o'r lefelau llygredd yn Afon Gwy ac Wysg.

Bydd yr awdur llyfrau plant amgylcheddol, Catherine Barr hefyd yn ymweld â Glan yr Afon i siarad â phlant am ei llyfrau sy'n amlygu'r materion sy'n gysylltiedig â dŵr ledled y byd. Bydd manylion pellach am y ddau ddigwyddiad hyn yn cael eu rhannu yn fuan.

Mae Ein Heog' yn cael ei harddangos yng nghyntedd Glan yr Afon ar hyn o bryd ac anogir ymwelwyr i fynd i’w gweld rhyfeddu at ei thrawsnewidiad anhygoel.