Mae JEREMY DUTCHER yn denor clasurol, cludwr caneuon Two-Spirit, polymuse, ymgyrchydd, ethnogerddoriaethegwr, ac yn aelod o Neqotkuk (Cenedl Gyntaf Tobique) yn Nwyrain Canada. Yr unig berson erioed i ennill Gwobr Polaris Canada ddwywaith, mi fydd Jeremy yn perfformio yn Neuadd Ogwen ym Methesda ddydd Sadwrn 20 Hydref ac yna yn Neuadd Les Ystradgynlais ddydd Sul 21 Hydref.
Mae'r ymweliad yn nodi ei ddychweliad i Gymru yn dilyn taith yn 2019 yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Cynhenid mewn Perygl UNESCO. Yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y perfformiad yna, dywedodd Dutcher, wedi'i syfrdanu gan ymrwymiad Cymru i'n hiaith, "Os gallwch chi anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg, gallaf fi anelu at fil o siaradwyr Wolastoqey." Iaith Algonquian sydd mewn perygl yw Wolastoqey, gyda dim ond ychydig o siaradwyr rhugl yn dal i fodoli.
Wedi ymroi yn llwyr i adfywio iaith, cyflwynodd albwm cyntaf Jeremy, Wolastoqiyik Lintuwakonawa, recordiadau archif o'i hynafiaid a oedd yn ymestyn yn ôl mwy na chanrif, gan eu troi'n gyfansoddiadau cydweithredol ar biano cyngerdd. Wedi ei ganu'n gyfan gwbl yn Wolastoqey, ei famiaith sydd o dan fygythiad, aeth yr albwm ymlaen i ennill Gwobr Gerddoriaeth Polaris 2018 ac arweiniodd at gydweithrediadau ag artistiaid eiconig fel Yo-Yo Ma a Leslie Feist.
Enillodd ei ail albwm, Motewolonuwok ᒣᑌᐧᐁᓓᓄᐧᐁᒃ, Wobr Polaris 2024, ac felly Jeremy yw'r cyntaf erioed i ennill y wobr ddwywaith. Mae cerddoriaeth Jeremy yn mynd y tu hwnt i ffiniau: yn ymgorffori dylanwadau clasurol a jazz yn chwareus, yn llawn parch at ganeuon traddodiadol ei gartref, ac yn byrlymu â gwrthsafiad cyfoes.
Mae pobl yn ei holi yn rheolaidd ynghylch ei safbwyntiau am brofiadau cwiar, materion brodorol, adfywio iaith, a ffasiwn – ac mae e hyd yn oed wedi bod yn feirniad gwadd ar Canadian Drag Race!
Gellir dod o hyd i ddolenni i wrando ar gerddoriaeth hiraethus Jeremy ar ei wefan: https://jeremydutcher.com/. Archebwch docynnau ar gyfer ei berfformiadau yn Neuadd Ogwen a’r Neuadd Les ar wefannau’r lleoliadau (www.neuaddogwen.com a www.thewelfare.co.uk)