Cafodd PROSIECT HWIANGERDD Live Music Now Cymru ddyfarniad o £69,975 ar ôl pleidlais gyhoeddus ‘Prosiectau’r Bobl’ y Loteri Genedlaethol, fel y gallwn gyflawni gwaith pellach ledled Cymru gyda rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl a’u teuluoedd.

Mae Live Music Now wedi bod yn cyflawni Prosiect Hwiangerdd (yn seiliedig ar y model a ddatblygwyd gan Neuadd Carnegie, Efrog Newydd) ers 2021 yn ne Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Mae Prosiect Hwiangerdd yn helpu teuluoedd i feithrin perthnasau cryfach â’u babanod, yn gwella hyder rhieni, gall wella iechyd meddwl amenedigol a chreu rhwydweithiau o ffrindiau i leihau ynysu cymdeithasol. Drwy ysgrifennu llythyrau a thrafod â’u partneriaid, y teulu ehangach, cerddorion Live Music Now a gweithwyr iechyd mae’r cyfranwyr yna’n mynegi eu cariad, gobeithion a dyheadau i’w plentyn drwy greu hwiangerdd. Gallwch wrando ar bob un o’r hwiangerddi pwerus a grëwyd hyd yma yma.

Cafodd Live Music Now Cymru sylw ddwywaith ar ITV Cymru ym Mai 2023 a chystadlodd yn erbyn pedwar sefydliad elusennol arall am bleidlais y cyhoedd.

Drwy ennill yr arian byddwn yn lansio pum prosiect newydd a fydd o fudd i 40 o deuluoedd yn ne Cymru, drwy atgyfeiriad gan ein partneriaid Dechrau’n Deg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Diolch i bawb a bleidleisiodd!